Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n benderfynol ein bod yn parhau â’n hymdrechion i wella ansawdd profiadau pawb sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n nodi nifer o gynigion i newid deddfwriaeth sylfaenol i gyfrannu at y gwelliannau hyn.

Fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu wedi’i diweddaru, y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a’n gwaith parhaus gyda’r Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian AS, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ymgynghoriad yn nodi sut y bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ehangach i ailgynllunio sut rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc, fel y gallwn sicrhau’r gorau iddyn nhw, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli'n lleol, wedi’u cynllunio'n lleol ac yn atebol yn lleol.

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym hefyd wedi ymrwymo i wella’r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol. Yn ein hymgynghoriad, rydym yn cynnig y bydd oedolion sy’n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn gallu cael mynediad at Daliadau Uniongyrchol, a fydd yn eu galluogi i benderfynu sut, pryd a chan bwy y mae eu hanghenion am ofal a chymorth yn cael eu diwallu. Credwn y bydd hyn yn cryfhau llais a rheolaeth defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr ymhellach, ac yn helpu oedolion anabl a difrifol sâl yn well i gynnal eu hannibyniaeth.

Yn yr ymgynghoriad, hwn rydym hefyd yn ystyried meysydd pwysig eraill lle gellid gwella’r fframwaith deddfwriaethol presennol, o ran y profiad o weithredu’r fframwaith hwn, a hefyd gan feddwl ymlaen at ganfyddiadau’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol sydd ar ddod. Mae hyn yn cynnwys ystyried y dyletswyddau i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac a ddylid ehangu’r dyletswyddau hyn i gynnwys gofyniad cyfreithiol ar unigolion o fewn cyrff perthnasol i hysbysu am y rhai sy’n wynebu risg o niwed, gan gynnwys drwy gamdriniaeth neu esgeulustod.

Yn yr ymgynghoriad, rydym hefyd yn archwilio nifer o feysydd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 lle credwn y gellid gwneud mân welliannau i alluogi’r fframweithiau rheoleiddiol presennol i weithredu’n fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys newid deddfwriaethol i egluro a gwella sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi ac yn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, a sut mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau sy’n ymwneud â rheoleiddio ac arolygu ‘gwasanaethau rheoleiddiedig’. Yn olaf, rydym yn cynnig ehangu’r diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys yr holl weithwyr gofal plant a chwarae. Bydd hyn yn atgyfnerthu cymorth Gofal Cymdeithasol Cymru i bobl sy’n gweithio yn y sector.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, a fydd yn cau ar 7 Tachwedd, edrychaf ymlaen at ymgysylltu â phawb sydd â diddordeb mewn parhau i wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n croesawu eich barn a’ch sylwadau ac yn edrych ymlaen at ddeialog gynhyrchiol yn y misoedd nesaf.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn yn hapus i wneud hynny.