Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i’r rhestr ardrethi ganolog i Gymru, i gyd-fynd â’r cylch ailbrisio ardrethi annomestig nesaf ar 1 Ebrill 2023.
Mae ardrethi annomestig yn rhan annatod o system gyllid llywodraeth leol yng Nghymru, gan gyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn tuag at gost gwasanaethau lleol hanfodol. Mae’r holl refeniw sy’n cael ei godi’n cael ei rannu’n llawn i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol a’r heddlu – gwasanaethau yr ydym i gyd yn elwa arnynt.
Cofnodir eiddo annomestig ar un o ddwy restr; y rhestr leol a’r rhestr ganolog, a gedwir gan awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, yn y drefn honno. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar newidiadau posibl i rwydweithiau telathrebu, y sector telathrebu symudol a rheilffyrdd.
Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 15 Ebrill 2022.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn: https://llyw.cymru/ailbrisio-ardrethi-annomestig-2023-y-rhestr-ardrethi-ganolog