Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ar Ganllawiau Ymarfer drafft ar gyfer y Grant Cymorth Tai, sy'n darparu'r fframwaith llywodraethu er mwyn i awdurdodau lleol weithredu a gweinyddu'r grant.

Mae'r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant bwysig sy'n ymyrryd yn gynnar, ac mae'n atal pobl rhag dod yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa o ran tai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw. Mae'n rhoi cymorth i bobl sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu, sydd weithiau’n niferus, fel dyledion, rheoli tenantiaeth, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a phroblemau iechyd meddwl. Mae'n helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain neu mewn tai â chymorth.

Daeth y Grant Cymorth Tai i fodolaeth ym mis Ebrill 2019 yn sgil y prosiect ariannu hyblyg gan Lywodraeth Cymru i gyfuno sawl grant, cryfhau gallu awdurdodau lleol a'u partneriaid i gyflwyno gwasanaethau ataliol a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol.

Gwnaed penderfyniad Gweinidogol ym mis Hydref 2018 i ffurfio dau grant o waith y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi, gan wahanu'r grantiau sy'n ymwneud â'r maes tai oddi wrth yr elfennau nad ydynt yn ymwneud â'r maes tai i bob awdurdod lleol. O ganlyniad, o fis Ebrill 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r Grant Plant a Chymunedau (sy'n cynnwys Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Gronfa Waddol, Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc, Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, Cymunedau am Waith a Mwy a Gofal Plant a Chwarae), ac un Grant Cymorth Tai (sy'n cynnwys Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru).

Yn unol â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r broses o ddatblygu'r trefniadau priodol ar gyfer gweinyddu, llywodraethu, cynllunio a monitro'r Grant Cymorth Tai yn broses gydgynhyrchu. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth â rhanddeiliaid allweddol er mwyn ystyried cynigion, sydd wedi arwain at y canllawiau yr ymgynghorir arnynt heddiw.

Gellir gweld y ddogfen ymgynghori a'r canllawiau drwy'r dolenn hyn:

https://llyw.cymru/canllaw-ymarfer-drafft-ar-y-grant-cymorth-tai

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 29 Tachwedd 2019 ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr adborth gan randdeiliaid a’r rheini sydd â diddordeb.