Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Mawrth, cyhoeddais Bapur Gwyn ar Fil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (CHPau) (Cymru). Cawsom bron 150 o ymatebion i’r ymgynghoriad ac rwy’n ddiolchgar i bawb a wnaeth ymateb. Heddiw rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion. Ar 3 Hydref, byddaf yn gwneud datganiad llafar yn nodi’r camau nesaf ar gyfer cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i foderneiddio’r sector tacsis a CHPau, gan fynd i’r afael â hurio ar draws ffiniau a diwygio trwyddedau er mwyn gwneud gwasanaethau yn fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn fwy teg.