Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mae ein rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau o ran cymhlethdod y gyfraith a chyflwr anhrefnus ein llyfr statud anferth a gwasgarog. Un o achosion y cymhlethdod hwnnw yw bod y ddeddfwriaeth honno wedi ei diwygio, ei hailddiwygio a'i hail-wneud mewn ffyrdd anghyson dros amser. Weithiau gall y newidiadau hynny arwain at ddarpariaethau deddfwriaethol nad ydynt bellach yn angenrheidiol. Gall sefyllfa godi lle nad yw darpariaethau yn cael eu defnyddio mwyach neu fod heb eu cychwyn o gwbl (yn aml oherwydd bod amgylchiadau eraill wedi eu gwneud yn ddiangen).
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) a fydd yn tynnu darpariaethau diangen o lyfr statud Cymru i helpu i'w "dacluso" ac i ddarparu eglurder o ran i ba raddau mae’r darpariaethau hynny'n berthnasol i Gymru. Mae symleiddio’r gyfraith fel hyn yn helpu i osgoi bod pobl yn cael eu camarwain gan ddeddfwriaeth sydd wedi darfod.
Drwy'r ymgynghoriad hwn, rwy'n awyddus i ddeall a yw'r diddymiadau arfaethedig yn ddefnyddiol, ac a oes unrhyw ganlyniadau i’w diddymu y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt. Rwyf hefyd yn croesawu barn ynghylch a oes darpariaethau eraill y dylem ystyried eu cynnwys yn y Bil hwn, neu Fil yn y dyfodol.
Arferai biliau fel hyn gael eu hystyried yn rheolaidd gan Senedd y DU, ond yn anffodus, ni wnaed un ers nifer o flynyddoedd bellach. Rwy'n rhagweld y bydd Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) yn cael ei gyflwyno yn y rhan fwyaf o dymhorau’r Senedd.