Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Amcangyfrifwyd bod osgoi ardrethi annomestig yng Nghymru yn digwydd ar raddfa sy'n golygu bod o leiaf £10 miliwn i £20 miliwn o refeniw yn cael ei golli bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i fwy nag 1 i 2% o'r refeniw a geir drwy'r ardreth, sy'n gyllid hanfodol i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r cyfleoedd i osgoi talu o fewn y system ardrethi annomestig. Mae'r mwyafrif llethol o fusnesau yng Nghymru yn gweithredu'n onest ac yn gywir wrth drefnu eu materion trethi lleol. Nid yw'n iawn o gwbl fod ymdrechion y mwyafrif helaeth i lynu wrth y rheolau a thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt yn cael eu tanseilio gan leiafrif bach sy'n mynd ati i gamfanteisio ar y system neu ei chamddefnyddio.
Yn 2018, yn dilyn ymgynghori, cyhoeddais becyn o fesurau i fynd i'r afael ag osgoi talu. Ers hynny, drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, rydym wedi:
- ymestyn y cyfnod byrraf y mae’n rhaid meddiannu eiddo cyn y gall fod yn gymwys am gyfnod o ryddhad eiddo gwag;
- galluogi awdurdodau bilio i fynd i mewn i eiddo a’i arolygu;
- galluogi awdurdodau bilio i ofyn am wybodaeth gan drydydd parti sy'n cynnal busnes mewn perthynas ag eiddo;
- cryfhau'r meini prawf cymhwystra ar gyfer rhyddhad elusennol i eiddo gwag;
- creu fframwaith gwrth-osgoi cyffredinol i fynd i'r afael â threfniadau artiffisial er mwyn osgoi ardrethi annomestig;
- galluogi creu dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio sy'n berthnasol i benderfynu ar atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig.
Yn sgil nifer o'r newidiadau hyn, bydd llai o gyfle eisoes i osgoi talu ardrethi annomestig. Mae newidiadau eraill yn ein galluogi i gymryd camau pellach i fynd i'r afael ag ymddygiadau hysbys o ran osgoi, sy'n parhau i esblygu.
Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ynghylch y cynigion polisi manwl ar gyfer y ddau fesur terfynol a restrir uchod, sy'n gofyn am reoliadau i roi effaith lawn i'r newidiadau rydym wedi'u gwneud.
Yn gyntaf, rydym yn cynnig diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial, gan roi effaith i’r fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol a sefydlwyd gennym. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau bilio i gymhwyso'r fframwaith hwnnw ac i wrthweithio ymgais i osgoi'r atebolrwydd a grëir pan wneir y trefniadau diffiniedig.
Yn ail, rydym yn cynnig creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw gwybodaeth hanfodol yn cael ei chelu'n fwriadol rhag awdurdodau bilio a bod y swm cywir yn cael ei godi ar dalwyr ardrethi.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bwriedir i'r cynigion ddod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn fanwl ac yn gofyn i bobl am eu barn. Bydd yn agored am 12 wythnos rhwng 7 Ebrill a 30 Mehefin 2025.
Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://www.llyw.cymru/mesurau-i-fynd-ir-afael-ag-osgoi-ardrethi-annomestig
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.