Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 9 Mehefin 2020, cyhoeddaf heddiw yr ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 4 Rhagfyr 2020. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r diwygiadau hyn ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich adborth gwerthfawr. Mae hyn wedi ein helpu i ddatblygu’r polisi a drafftio'r ddeddfwriaeth sydd bellach, yn fy marn i, yn gallu rhoi hyblygrwydd i'r Comisiwn ddatblygu a gweithredu fel corff hyd braich annibynnol pan fydd wedi'i sefydlu.  

Mae'n hanfodol ein bod yn cael y diwygiadau hyn yn iawn ac ni allwn fforddio eu gohirio am gyfnod amhenodol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle i sicrhau bod y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru'n gweithredu'n effeithiol ar ôl cyfnod yr argyfwng Covid. Bydd cael trafodaeth ystyrlon gyda'n rhanddeiliaid ar fanylion y Bil drafft hwn yn sicrhau ein bod yn creu system sy'n addas ar gyfer heriau'r dyfodol. 

Mae'r Bil, fel y'i ddrafftiwyd, yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn sefydlu Comisiwn newydd, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd y Comisiwn newydd yn gyfrifol am y sector addysg drydyddol cyfan yng Nghymru a bydd yn cynnwys Ymchwil ac Arloesi Cymru fel pwyllgor o'r Comisiwn newydd.  

Bydd yn ddyletswydd ar y Comisiwn i hyrwyddo ymdeimlad o genhadaeth ddinesig gan sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a Chymru gyfan. Mae hyn yn bwysicach nag erioed nawr.

Mae'r Bil drafft yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau ac yn cynnwys darpariaethau penodol i'w diogelu mewn cyfnod ansicr. Mae hefyd yn cyflwyno gofyniad i'r Comisiwn gyhoeddi cod newydd ar gyfer cynnwys dysgwyr yn y broses o lywodraethu a rheoli darparwyr.  

Bydd y Comisiwn yn sicrhau mwy o gydlyniant ar draws y sector addysg drydyddol drwy hyrwyddo llwybrau dysgwyr yn glir, gan gynnwys sut mae dysgwyr yn trosglwyddo o addysg orfodol i addysg ôl-orfodol. Un o dasgau'r Comisiwn fydd cryfhau'r cydweithio er mwyn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd drwy sicrhau strwythurau goruchwylio mwy cydlynol i arwain, cefnogi, monitro a gwerthuso'r sector addysg drydyddol yn erbyn amcanion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd yn gallu gwneud hyn wrth i ni ddwyn ynghyd mewn un lle y trefniadau ar gyfer cyllido, goruchwylio a chefnogi addysg uwch, addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion a phrentisiaethau, ynghyd â'r cyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi lefel uwch a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.    

Bydd y Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gyhoeddi cynllun strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, a chreu model cofrestru newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol.

Bydd y Comisiwn hefyd yn sicrhau ac yn gwella ansawdd a safon yr addysg drydyddol a'r hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol, gan greu dull gweithredu cyson sy'n seiliedig ar ansawdd drwy egwyddorion a rennir a chydweithredu. 

Bwriedir cynnal digwyddiadau i randdeiliaid ar y Bil drafft rhwng mis Medi a mis Tachwedd, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â buddiant yn y diwygiadau hyn i fanteisio ar y cyfleoedd amrywiol y byddaf yn eu cynnig i helpu pobl Cymru i ymateb i'r ymgynghoriad hwn.  

Er mai mater i'r Llywodraeth nesaf, yn y pen draw, fydd penderfynu a ddylai'r diwygiadau hyn gael eu cyflawni, rwy'n benderfynol o wneud popeth gallaf i sicrhau bod darn cadarn a chynhwysfawr o ddeddfwriaeth, sydd wedi’i lywio gan ganlyniadau’r ymgynghoriad hwn ar y Bil drafft, yn barod i'w chyflwyno gerbron y Senedd yn gynnar yn y tymor newydd.