Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad ar eithriadau arfaethedig i bremiwm y Dreth Gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Nghymru.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014, yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi’r pwerau dewisol i Awdurdodau Lleol i godi premiwm o hyd at 100% o raddfa safonol y Dreth Gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn eu hardaloedd. Bydd Awdurdodau Lleol yn gallu penderfynu codi’r premiwm hwn o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

Mae premiymau’r Dreth Gyngor yn fesur ychwanegol i’r Awdurdodau Lleol i helpu i ailddefnyddio tai gwag a helpu i ddiwallu anghenion tai lleol. Bydd Awdurdodau Lleol yn gallu rhoi ystyriaeth i anghenion ac amgylchiadau lleol cyn penderfynu a ddylid gweithredu’r premiymau ai peidio.

Cyn cyflwyno’r premiymau ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, hoffwn ystyried eithriadau a allai fod yn ofynnol gan fy mod yn cydnabod bod rhai amgylchiadau lle gallai fod yn amhriodol codi premiwm y Dreth Gyngor arnynt.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriadau hyn yn llywio’r Rheoliadau y bwriadaf eu gwneud yn rhagnodi rhai categorïau o anheddau na fyddant yn agored i’r premiymau.

Mae eisoes nifer o eithriadau i’r Dreth Gyngor a bydd y rhain hefyd yn ymestyn i bremiymau’r Dreth Gyngor. O ganlyniad, mae’r ymgynghoriadau hyn ond yn ystyried eithriadau posibl i bremiymau’r Dreth Gyngor yn ogystal â gwelliannau a allai fod yn ofynnol i eithriadau sydd eisoes yn bodoli , er enghraifft, y rheini lle mae cyfyngiad amser arnynt, yng ngoleuni cyflwyno’r premiymau.

Bydd y'r ymgynghoriadau yn rhedeg o 13 Mawrth i 13 Mehefin.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Dreth Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor rhwng 31 Gorffennaf 2012 a 20 Hydref 2012.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar bwerau dewisol i Awdurdodau Lleol godi cyfradd uwch o’r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi rhwng 16 Medi 2013 a 28 Hydref 2013.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 i’w gweld yma:
http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/7/contents/enacted