Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ein safonau amgylcheddol a’n bod hefyd yn adeiladu arnynt, heb gyfyngu ar ein deddfwriaeth amgylcheddol.
Cyhoeddais argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill er mwyn anfon arwydd clir ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau hinsawdd cyn ei bod yn rhy hwyr. Mae ein dull o weithio o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol inni ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae ein deddfwriaeth eisoes yn cael ei chydnabod fel deddfwriaeth arloesol, sy'n gosod datblygu cynaliadwy a'r amgylchedd yn ganolog mewn penderfyniadau. Mae'n cydnabod y rhyngddibyniaethau rhwng ein hinsawdd a'n hamgylchedd ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'n dull holistaidd o weithio.
Cafodd ein hymrwymiad i gynnal a gwella ein hadnoddau naturiol ei amlygu yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), sydd wedi deillio o arferion gorau rhyngwladol. Dyma Ddeddf a gyflwynodd ddull blaengar, a oedd yn cydnabod bod iechyd ein hadnoddau naturiol nid yn unig yn hanfodol i'r amgylchedd, ond hefyd yn bwysig o ran llesiant cenedlaethau nawr a chenedlaethau’r dyfodol. Mae'r ddwy Ddeddf yn cynnig sylfaen ystyrlon a chyd-destun cyffredinol i ddechrau mynd i'r afael â'r bylchau yn y llywodraethu amgylcheddol sy'n deillio o’r ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i gau'r bylchau hyn.
Ym mis Mawrth gwnes lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi dechrau sgwrs barhaus gyda'n rhanddeiliaid ar sut y gallwn gynnig fframwaith llywodraethu integredig i Gymru ar ôl i ni ymadael â'r UE, a hynny mewn ffordd sy'n cyflawni ein hymrwymiadau i beidio â lleihau hawliau dinasyddion ac sy'n gwella ein henw da am safonau uchel.
Cafwyd ymateb da gan randdeiliaid i’r ymgynghoriad, a chroesawyd y gwahoddiad agored i gyfrannu eu safbwyntiau a'r ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud. Byddaf yn parhau i fynd i'r afael â'r bylchau llywodraethu.
Rydym hefyd wedi ennyn diddordeb y cyhoedd yn ehangach gyda dwy ymgyrch a ysgogodd oddeutu 2,000 o ymatebion. Mae hyn yn tystio i bwysigrwydd adnoddau naturiol i bobl Cymru, a'n penderfyniad cyffredinol i'w cynnal a'u gwella er budd ein llesiant a'n ffyniant hirdymor.
Hoffwn ddiolch i'r Athro Robert Lee o Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Birmingham sydd wedi cadeirio cyfres o weithdai i drafod yr ymgynghoriad, gan gynnig fforwm annibynnol i greu syniadau arloesol ar y ffordd orau o weithredu er lles Cymru.
Byddaf yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Awst. Mae mynd i'r afael â bylchau ym maes llywodraethu yn fater cymhleth, sy'n galw am ystyriaeth ofalus, ar y cyd. Gan adeiladu ar ein dull cydweithredol o ymgynghori, rwyf wedi sefydlu tasglu o brif randdeiliaid i gydweithio â ni i ddatblygu ymhellach fanylion strwythur llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Dechreuodd y grŵp hwn ar ei waith yr wythnos hon a bydd yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i'm Grŵp Bord Gron ar Brexit.