Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar Echdynnu Petroliwm yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Deddf Cymru 2017, dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol y llynedd, yn gam ymlaen i roi rhagor o reolaeth dros gydsynio gyda phrosiectau ynni a fframweithiau rheoleiddiol eraill pwysig i Gymru, gan gynnwys trwyddedu ar y tir yn y dyfodol i echdynnu olew a nwy.

Ym mis Rhagfyr 2016, cyflwynais fy ymrwymiad i leihau ein dibyniaeth ar ynni sy’n cael ei gynhyrchu o danwyddau ffosil.  Mae'r pwerau newydd ar gyfer trwyddedu petroliwm yn rhoi cyfle inni ystyried sut y dylem echdynnu petroliwm yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.   Fel maes newydd o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, comisiynwyd adolygiad o’r dystiolaeth gennym yn 2017 i lywio ein polisi yn y dyfodol ar gyfer echdynnu petroliwm.

Heddiw rwy'n falch o lansio ymgynghoriad i holi barn ar y dystiolaeth honno a'n polisi arfaethedig ar echdynnu petroliwm gan gynnwys ffracio.  

https://beta.gov.wales/petroleum-extraction-policy-wales

https://beta.llyw.cymru/polisi-echdynnu-petrolewm-yng-nghymru

Yn y DU, mae gan Gymru ddull penodol o reoli ein hadnoddau naturiol, ac mae’r ddeddfwriaeth yn sail i hyn.  Dylid ystyried y polisi arfaethedig yng nghyd-destun ein nod llesiant i gael Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a'n huchelgais hirdymor i ddileu tanwyddau ffosil o'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio tra'n lleihau effaith economaidd negyddol a rhoi eglurder i fuddsoddwyr.

Rwy'n croesawu eich barn wrth ystyried a fydd y cynigion yn yr ymgynghoriad yn helpu inni ddarparu ein hamcanion hirdymor. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 25 Medi 2018