Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU i'r Senedd y byddai'n cau'r Gronfa Byw'n Annibynnol ar 30 Mehefin 2015. Cafodd y penderfyniad ei wneud heb unrhyw ystyriaeth flaenorol o gwbl i'r gweinyddiaethau datganoledig. Bryd hynny, bydd y cyfrifoldeb am ddiwallu anghenion cymorth y rhai sy'n derbyn taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cael ei basio i Lywodraeth Cymru. Dyma hysbysu Aelodau bod ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau i geisio barn am yr egwyddor o weithredu ystod o opsiynau posibl i ddarparu'r cymorth hwnnw pan fydd y Gronfa wedi dod i ben.      

Cafodd y Gronfa Byw'n Annibynnol ei sefydlu yn 1988 fel Corff Cyhoeddus An-adrannol Gweithredol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu cymorth ariannol i bobl anabl ledled y DU sydd angen lefel uchel o gymorth er mwyn byw'n annibynnol. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth y DU a'i weithredu gan y Gronfa Byw'n Annibynnol ei hun.  

Mae'r Gronfa yn gwneud taliadau ariannol uniongyrchol i bobl anabl sydd ag anghenion gofal sylweddol iawn fel eu bod yn gallu talu am y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, neu gyflogi eu cynorthwy-ydd personol eu hunain. Gall y taliadau gael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o bethau fel: help i fwyta ac yfed; coginio a pharatoi bwyd a diod; help i wisgo; glanhau, golchi dillad a gwaith tŷ arall. Ar 31 Gorffennaf eleni, roedd 1,686 o bobl yn derbyn taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru, ac roeddent yn derbyn ychydig dros £335 yr wythnos ar gyfartaledd o'r Gronfa i ddiwallu eu hanghenion.

Yng nghyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gynharach eleni, cadarnhawyd:

  • y bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn dod i ben yn y DU ar 30 Mehefin y flwyddyn nesaf;
  • o'r dyddiad hwnnw ymlaen, yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, y gweinyddiaethau datganoledig fydd yn gyfrifol am ddiwallu anghenion cymorth y sawl sy'n derbyn taliadau o'r Gronfa ar hyn o bryd, yn eu gwledydd. Mater i'r gweinyddiaethau hynny fydd penderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. (Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi penderfynu y dylai'r cyfrifoldeb gael ei basio i awdurdodau lleol);
  • y bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r gweinyddiaethau datganoledig bryd hynny i dalu costau'r cymorth hwn. Ar gyfer 2015-16, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £20.4 miliwn er mwyn gwneud hyn. Nid yw'r broses hon o drosglwyddo cyllid yn cynnwys elfen ar wahân ar gyfer gweinyddu'r gronfa; 
  • tan y dyddiad cau, bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn parhau i helpu'r rheini sy'n derbyn taliadau o'r Gronfa yn yr un modd ag y mae nawr.

Gan ystyried penderfyniad unochrog Llywodraeth y DU, mae angen cytuno ar drefniadau ar gyfer y dyfodol a’u rhoi ar waith yng Nghymru i helpu'r sawl sy'n derbyn taliadau ar hyn o bryd i barhau i fyw'n annibynnol. Mae Gweinidogion Cymru eisoes wedi nodi ein bod yn dymuno clywed barn rhanddeiliaid am sut y dylai'r cymorth hwnnw gael ei ddarparu, cyn gwneud penderfyniad ynghylch y ffordd mwyaf addas o ddarparu'r cymorth. O ganlyniad, mae fy swyddogion wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o randdeiliaid i nodi'r opsiynau ar gyfer darparu'r cymorth hwn. Mae'r rhain yn amrywio o basio cyfrifoldeb a chyllid i awdurdodau lleol er mwyn diwallu anghenion, i sefydlu Cronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i gynrychiolwyr y rhanddeiliaid sydd wedi gweithio gyda fy swyddogion i wneud hyn.

O ganlyniad, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau i geisio barn am yr egwyddor o weithredu un o bedwar opsiwn ar gyfer darparu'r cymorth hwnnw yn y dyfodol. Mae hwn yn amlinellu cefndir y Gronfa Byw'n Annibynnol a'i diben, penderfyniad Llywodraeth y DU, a'r opsiynau sydd wedi'u nodi. Wrth eu disgrifio, mae hefyd yn nodi beth y credwn yw'r prif fanteision a heriau sy'n gysylltiedig â phob opsiwn. Gallwch weld copi o'r ddogfen ymgynghori ar lein.

Wrth i'r ymgynghoriad fynd rhagddo, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda sefydliadau a allai ddarparu unrhyw un o'r pedwar trefniant cymorth ar gyfer y dyfodol a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad hwn. Byddai hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb er enghraifft. Diben hyn yw sicrhau na fydd oedi wrth roi'r opsiwn ar waith, pa bynnag opsiwn a ddewisir, tra bo trafodaethau am yr agweddau ymarferol yn digwydd.

Gwn fod cyhoeddiad Llywodraeth y DU wedi achosi pryder ymhlith y sawl sy'n derbyn taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol ynghylch sut bydd eu cymorth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Rwyf am eu sicrhau ein bod wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod trefniadau priodol ar waith mewn da bryd i ddiwallu eu hanghenion cymorth erbyn i'r Gronfa ddod i ben y flwyddyn nesaf. Byddaf yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad hwn er mwyn sicrhau fy mod yn hollol ymwybodol o farn rhanddeiliaid pan fyddaf, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn penderfynu ar y ffordd fwyaf addas o ddiwallu anghenion y sawl sy'n derbyn taliadau yn y dyfodol.

Gwnaf yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad.