Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er gwaethaf effeithiau degawd o doriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n gyson mewn addysg a hyfforddiant i unigolion sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio, yn y GIG; ac fel llywodraeth byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda nifer y lleoedd hyfforddi a gynigir yng Nghymru ar ei uchaf ers datganoli.

Ar 23 Ebrill, cyhoeddais y byddai Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau ar gyfer unigolion sy'n dechrau astudio ar raglen gofal iechyd gymwys yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2019/20. Mae hynny'n golygu y bydd y pecyn bwrsari llawn yn parhau i fod ar gael yng Nghymru i'r rhai sy'n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yma am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.

Mae'n bwysig sicrhau bod ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant gofal iechyd yn darparu'r math o gymorth sy'n annog unigolion i ystyried gofal iechyd fel gyrfa. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r trefniadau cymorth roi sylw i'r materion hynny y mae'r myfyrwyr yn eu nodi fel rhwystrau sy'n eu hatal rhag astudio, ac mae angen inni wrando ar yr hyn sydd gan fyfyrwyr a chyflogwyr i'w ddweud ynghylch y cymorth y mae ei angen. Rwyf wedi dweud yn glir y dylid ystyried trefniadau cymorth i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gofal iechyd yn y dyfodol ochr yn ochr â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i system ehangach cymorth i fyfyrwyr 2018/19. Mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r trefniadau cyllido yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn cael y gwerth gorau am arian.

Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar brif agweddau'r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth i fyfyrwyr gofal iechyd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu sylwadau a syniadau gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau. Bydd yr hyn a gesglir yn ein helpu i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch pa fath o drefniadau cymorth y bydd eu hangen ar fyfyrwyr gofal iechyd yn y dyfodol.

https://beta.llyw.cymru/trefniadau-cymorth-i-fyfyrwyr-yn-gysylltiedig-ag-iechyd