Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Lansiwyd y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol ym mis Tachwedd 2002. Cynllun grant cyfalaf yw’r Rhaglen sy’n ceisio helpu mudiadau cymunedol a gwirfoddol i ddarparu cyfleusterau a fydd yn hybu’r gwaith o adfywio cymunedau. Ar hyn o bryd mae’r Rhaglen yn darparu hyd at £300,000 o gyllid cyfalaf yn uniongyrchol i’r ymgeiswyr dros gyfnod o hyd at dair blwyddyn ariannol. Hyd yn hyn mae’r Rhaglen wedi ymrwymo dros £98 miliwn i 860 o brosiectau cymunedol ledled Cymru.


Gall unrhyw fudiad trydydd sector fanteisio ar y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol ar ei ffurf bresennol, cyn belled â’i fod yn fudiad corfforedig priodol ac nad yw’n dosbarthu elw. Mae’n Rhaglen boblogaidd sydd bob amser wedi’i gordanysgrifio, ac mae ar gael ym mhob rhan o Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar ei rhaglenni grant er mwyn sicrhau eu bod yn dal i fod yn addas i’r diben. Rwy’n lansio ymgynghoriad, felly, yn gwahodd rhanddeiliaid i ddweud eu barn am newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.
Fel rhan o’r ymgynghoriad bydd swyddogion o’r Is-adran Gymunedau yn cyfarfod rhanddeiliaid yn:
  • Y Drenewydd - 20 Medi 2012 
  • Cyffordd Llandudno - 21 Medi 2012 
  • Merthyr Tudful - 1 Hydref 2012


Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 31 Hydref 2012.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau. Os bydd yr aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn falch o wneud hynny.