Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Mae Llywodraeth Cymru'n lansio ymgynghoriad 6-wythnos ffurfiol heddiw ar gynigion i ddiwygio trefn cofrestru a chymeradwyo Ysgolion Annibynnol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Ar hyn o bryd, mae Deddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gymeradwyo ysgol annibynnol fel un sy'n addas i dderbyn plant y mae datganiadau AAA ar eu cyfer yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol. Er mwyn i blentyn gael ei leoli mewn ysgol annibynnol, rhaid bod Gweinidogion Cymru naill ai wedi cymeradwyo'r ysgol fel un addas i dderbyn plant â datganiadau AAA yn gyffredinol, neu wedi cymeradwyo lleoli plentyn penodol mewn ysgol benodol (adran 347 o'r Ddeddf).

O ganlyniad i Ddeddf Addysg 2002, gosodwyd safonau uwch i’r sector ysgolion annibynnol yn gyfan o dan ran 10 mewn perthynas â chofrestru (adran 160 o Ddeddf Addysg 2002) a'r rheoliadau sy'n ategu hynny. Mae'r safonau a ddefnyddir i farnu'r holl ysgolion annibynnol bellach yn uwch na'r rhai a nodir yn y rheoliadau sy'n bodoli ar hyn o bryd wrth ystyried a yw ysgol annibynnol yn addas i blant ag AAA o dan adran 347.  

O ganlyniad, mae trefn adran 347 yn gweinyddu proses sydd erbyn heddiw yn ddiangen ac yn dyblygu'r materion y mae angen eu hystyried wrth wneud cais i gofrestru o dan adran 160 o Ddeddf Addysg 2002. Rydym felly'n dymuno ceisio barn ar y cynnig i ddileu adran 347 yng ngoleuni bodolaeth adran 160 a'r mesurau diogelu arfaethedig eraill yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno.  

Credwn y bydd hynny'n cynnig system symlach sy'n llai biwrocrataidd ac sy'n gosod y  ddyletswydd yn gadarn ar awdurdodau lleol sydd eisoes yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth briodol i blant a phobl ifanc ag AAA. Wrth wneud hynny, rydym yn dymuno cynnal lefel uchel o fesurau diogelu a fydd yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn lleoli plant yn briodol mewn ysgolion annibynnol. Rydym hefyd yn dymuno i’r newid deddfwriaethol arfaethedig hwn gyd-fynd â'r diwygiadau i'r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer AAA, sy’n yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Mae'r ymgynghoriad ar ddiddymu adran 347 yn dod i ben ar ddydd Iau 1 Tachwedd 2012.  Mae'r ymgyngoreion yn cynnwys cyfarwyddwyr awdurdodau lleol, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion annibynnol, Estyn a rhai eraill â diddordeb yn y mater. Cynhyrchwyd fersiwn o'r ddogfen ymgynghori sy'n ystyriol o bobl ifanc.

Yn amodol ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, ac yn sgil Llywodraeth Cymru'n ystyried yr ymatebion hynny, caiff y cynigion eu cynnwys yn y Bil Addysg (Cymru) sydd ar y gweill.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os yw'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu i ateb cwestiynau ar y pwnc hwn pan ddaw'r Cynulliad yn ôl, byddaf yn hapus i wneud hynny.