Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 29 Medi 2016, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ganlyniad ei adolygiad o ddosbarthiad ystadegol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru, a landlordiaid yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Yn yr un modd ag y gwnaeth ar gyfer Cymdeithasau Tai Lloegr, daeth yr adolygiad i'r casgliad bod LCC yng Nghymru yn gynhyrchwyr y farchnad gyhoeddus, ac yn cael eu hailddosbarthu i'r is-sector Corfforaethau Cyhoeddus Anariannol at ddibenion cyfrifon gwladol ac ystadegau economaidd eraill ONS.

Erbyn 31 Mawrth 2016, roedd LCC yng Nghymru wedi darparu tua 139,000 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy. Roeddent yn hollbwysig wrth ragori ar darged blaenorol Llywodraeth Cymru o sicrhau 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad diwethaf.  Mae cyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru o sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn dibynnu ar gyfraniad sylweddol y sector LCC sydd, yn ei dro, yn gofyn ar i'r sector barhau i gael y rhyddid i fenthyca gan y sector preifat i ychwanegu at gyllid grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyllid eraill.

Mae ailddosbarthu yn arwain at oblygiadau ariannol sylweddol i Lywodraeth Cymru a'r sector LCC. Mae'n golygu y bydd unrhyw fenthycau marchnad y sector preifat a gymerir gan y LCC newydd eu hailddosbarthu i'r sector cyhoeddus yn sgorio fel cost yn erbyn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r cynnydd yn nyled y LCC i'r sector preifat yn £200 miliwn y flwyddyn yn seiliedig ar y cyfartaledd presennol, ac yn ogystal â hynny, byddai tua £2.3 biliwn o ddyled hanesyddol yn cael ei hychwanegu at ddyled net sector cyhoeddus y DU.

O fis Ebrill 2018, daw pwerau newydd i rym i Lywodraeth Cymru fenthyca er mwyn cefnogi prosiectau buddsoddi cyfalaf. Mae'r terfyn benthyca blynyddol wedi'i gapio i ddechrau ar £125m, gan godi i £150m o 2019/20 ymlaen, i uchafswm o £1bn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau gwario cyfalaf hyd at 2020-21 sy'n defnyddio £395m o'r £445m o'r cyllid sydd ar gael i'w fenthyca, felly ni fydd digon o gapasiti i ganiatáu ar gyfer gofynion benthyca blynyddol presennol LCC na thwf pellach yn y blynyddoedd nesaf.

Byddai hyn yn golygu llai o dai fforddiadwy newydd a llai o opsiynau i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniad cadarnhaol y mae LCC yn ei wneud i'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt, gan gynnwys sicrhau cyflogaeth a manteision economaidd yn lleol. Byddai hefyd yn arwain at ansicrwydd i randdeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i ariannu sector LCC annibynnol.

Oni bai ein bod yn cymryd camau a fyddai'n galluogi'r ONS i wrthdroi'r ailddosbarthiad er mwyn i LCC unwaith eto gael eu dosbarthu fel sefydliadau'r sector preifat, bydd ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru yn cael eu bygwth.

Yn adolygiad yr ONS yng Nghymru, nodwyd dangosyddion o reolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a arweiniodd at yr ONS yn penderfynu y dylai LCC gael eu hailddosbarthu.  Pwerau sy'n berthnasol i LCC yw'r rhain yn bennaf, a nodir yn Neddf Tai 1996, gan gynnwys y darpariaethau a fewnosodwyd gan Fesur Tai (Cymru) 2011.  

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried diwygio'r drefn ar gyfer rheoleiddio LCC i ddileu neu ddiwygio'r pwerau perthnasol. Ar ôl gwneud hyn, byddai'r ONS yn gallu ystyried ailddosbarthu LCC yng Nghymru i'r sector Corfforaethau Anariannol Preifat, gan felly liniaru'r effeithiau a'r pryderon cyllidebol a nodir uchod.

Nid yw'r ffaith bod y rheolaethau'n cael eu dileu yn golygu na fydd y sector yn cael ei reoleiddio. Un o'r prif ystyriaethau wrth ddatblygu cynigion i fynd i'r afael ag effeithiau ailddosbarthu yw'r angen i gynnal proses reoleiddio gadarn. Felly, rydym eisoes wedi cymryd camau i adolygu ac atgyfnerthu ein dull o reoleiddio, ac mae fframwaith rheoleiddio newydd wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2017.  

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion i weithredu diwygiadau rheoleiddio. Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn eu defnyddio i lywio datblygiad parhaus ein cynigion.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/diwygio-rheoleiddio-landlordiaid-cymdeithasol-cofrestredig a daw i ben ar 3 Gorffennaf 2017.