Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella darpariaeth gwasanaethau i bobl sydd ag iechyd llygaid gwael yn flaenoriaeth.
Yn dilyn negodiadau’r contract optometreg, cyhoeddais, mewn egwyddor, delerau gwasanaeth contract optometreg newydd mewn Datganiad Ysgrifenedig fis Medi y llynedd. Rydym nawr yn ymgynghori ar y cynigion i ehangu’r gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr optometreg gofal sylfaenol a lansio’r contract optometreg newydd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 24 Ebrill ac 19 Mehefin.
Mae hyn yn cynrychioli diwygiad sylweddol o’r gwasanaethau gofal llygaid, sy’n cyd-fynd â’r ymrwymiadau yn strategaeth Cymru Iachach a’n dogfen Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol. Bydd yn ysgogi’r broses o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uwch ac, yn y pen draw, yn arwain at well canlyniadau i ddinasyddion. Yn ogystal, bydd hyn yn arwain at fuddion cadarnhaol i weithwyr iechyd proffesiynol a GIG Cymru ac yn galluogi dull system gyfan newydd ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig gan GIG Cymru.
Ysgogydd allweddol ar gyfer newid yw’r angen i liniaru’r pwysau ar adrannau llygaid yr ysbytai. Gellir cyflawni hyn drwy gynyddu’r ystod o wasanaethau a ddarperir yn agos at y cartref mewn gofal sylfaenol, a hynny gan weithlu hyfforddedig sydd â’r cyfarpar angenrheidiol.
Mae gennym y seilwaith a gweithlu cymwys a brwdfrydig mewn gofal sylfaenol, sy’n cydweithio gyda gwasanaethau llygaid yr ysbytai i sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid Cymru’n parhau i fod yn llwyddiant ar gyfer datganoli. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gofal iechyd y llygaid yng Nghymru i ystyried y cynigion ac i ymateb i’r ymgynghoriad hwn cyn gynted â phosibl.
Mae’r datblygiad polisi hwn yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y Deyrnas Unedig, gan arwain y gwaith diwygio clinigol o safbwynt y claf. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i fanteisio’n llawn ar wasanaethau clinigol mewn optometreg gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i wasanaethau offthalmig drwy drafodaethau cadarn a gwaith ar y cyd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r dull cydweithredol hwn dros y misoedd nesaf yn ein hymdrech i wella gwasanaethau ymhellach i bobl ag iechyd llygaid gwael a chyflawni amcanion y Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol yng Nghymru.