Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddir heddiw papur ymgynghori sy'n cynnwys cyfres o gynigion ar gyfer diwygiadau i'r system etholiadol. Mae’n cynnwys pwy sy’n gallu pleidleisio, cofrestru pleidleiswyr, y broses etholiadol; pwy sy’n gallu sefyll fel ;ymgeisydd mewn etholiad a phwy sy’n gallu bod yn swyddogion canlyniadau.

Pwrpas diwygio’r system etholiadol yw ei wneud yn haws i bobl bleidleisio ac yn haws i bobl cael yr hawl i bleidleisio. Mae hyn yn golygu ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i filoedd o bobl yng Nghymru sy'n cael eu gwrthod wrth ddweud eu dweud yn y bythau pleidleisio. Mae hefyd yn cynnwys nifer o opsiynau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, sy'n cyd-fynd yn dda gydag ein rhaglen ddiwygio ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn ceisio gwneud newidiadau deddfwriaethol drwy Fil Llywodraeth Leol. Byddai unrhyw newidiadau a gyflwynwyd drwy'r Bil hwn yn berthnasol i etholiadau llywodraeth leol yn unig. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried diwygiadau mewn perthynas â'i etholiadau ei hun ar wahân i’r ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau lleol Cymru. Mae hyn wedi bod yn bolisi Llywodraeth Cymru am gyfnod hir. Rydym yn credu os ydych yn gallu priodi, talu trethi ac ymuno â'r fyddin yn 16 oed, dylech fod yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig nifer o gynigion ar gyfer diwygio’r broses gofrestru i wneud y gorau o faint y gofrestr etholiadol. Rwyf am swyddogion cofrestru etholiadol gael mwy o bwerau i ychwanegu pobl at y gofrestr lle maent yn hyderus eu bod yn byw at gyfeiriad penodol ac yn gymwys i bleidleisio.

Rydym hefyd yn ymgynghori ar opsiynau sy’n ei gwneud yn haws i bleidleisio. Mae'r rhain yn cynnwys pleidleisio drwy'r post yn unig, pleidleisio electronig a phleidleisio o bell. Mae dewisiadau ynghylch pleidleisio ar ddiwrnodau eraill yn ogystal â’r dydd Iau traddodiadol yn unig, pleidleisio mewn mannau ar wahân i orsafoedd pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio symudol.

Er bod llawer o bobl yn mwynhau’r daith draddodiadol i'r orsaf bleidleisio, marcio papur gyda phensil wedi’u clymu ar linyn, mae angen i ni gydnabod bod i lawer mae hyn yn draddodiad hen ffasiwn. Gall pobl sy'n fodlon bancio, siopa a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus pwysig ar-lein ei chael yn anodd deall pam nad yw pleidleisio electronig yn bosibl.

Mae'r papur ymgynghori yn cynnig bod cynghorau unigol yn gallu cael dewis eu system etholiadol eu hunain – rhwng y system gyntaf i'r felin a’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn dilyn cyhoeddiad ac ymgynghoriad y Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol, cynigaf y dylai unrhyw newidiadau i system pleidleisio cyngor angendwy ran o dair o aelodaeth y cyngor i bleidleisio o blaid, yn adlewyrchu’r trothwy ar gyfer newidiadau o’r un fath yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farnau ar atal Aelodau'r Cynulliad rhag gwasanaethu fel cynghorwyr ar yr un pryd. Rydym yn credu mai swydd llawn amser yw bod yn Aelod Cynulliad, ac yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol fel y cyfryw. Y Cynulliad Cenedlaethol yw’r corff sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â llywodraeth leol yng Nghymru a gall wrthdaro buddiannau godi - ac y maent yn codi – pan mae pobl yn atebol iddo ef ac i lywodraeth leol ar yr un pryd.

Ond, mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai atal y miloedd o swyddogion a staff cyngor rhag cael eu hethol i'w cynghorau eu hunain fel ydynt ar hyn o bryd. Mae swyddi uwch mewn cynghorau yn swyddi sydd â chyfyngiadau gwleidyddol, ond ar hyn o bryd ni all cynorthwywyr cinio ysgol gael eu hethol i gynrychioli etholwyr ar eu cyngor ond gall llywodraethwyr ysgol.

Yn olaf, mae’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â rhai o'r trefniadau hynafol o amgylch swyddogion canlyniadau. Mae'n ystyried gwneud hyn yn rôl orfodol i brif weithredwyr, gan adael i’r awdurdodau cyflogedig benderfynu a ddylid swyddogion canlyniadau derbyn iawndal am y ddyletswydd hon, yn hytrach na chodi ffi am gynnal etholiadau fel pe baent yn rhyw fath o ymgynghorydd.

Mae'n hen bryd y dylai'r Cynulliad hwn gael y pŵer i benderfynu ar sut mae etholiadau yng Nghymru yn cael eu trefnu a sut mae pobl Gymreig yn cael pleidleisio.

Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Cynulliad yn gwneud popeth o fewn eu gallu i annog eu hetholwyr i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Mae wedi'i gynllunio i wneud ein prosesau democrataidd yn fwy hygyrch yn awr ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae’n lan i ni i fod yn feiddgar a manteisio ar y cyfle i ymestyn y bleidlais i bleidleiswyr coll Cymru.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/diwygio-etholiadol-ym-maes-llywodraeth-leol-yng-nghymru