Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru a'r DU yn parhau â'u hymdrechion cydweithredol ar ddiwygio'r sector dŵr gyda lansiad ymgynghoriad ar y cyd ar newidiadau arfaethedig i Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013. Mae'r rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddiogelu ansawdd ein dyfroedd ymdrochi a sicrhau bod y cyhoedd yn wybodus am ansawdd dŵr ar y safleoedd hanfodol hyn.

Mae gan Gymru rai o'r traethau gorau a'r ansawdd dŵr gorau yn Ewrop, ac mae nofio awyr agored yn gynyddol boblogaidd. Mae'n hanfodol bod ein rhaglen dŵr ymdrochi yn esblygu nid yn unig i adlewyrchu'r brwdfrydedd cynyddol hwn ond hefyd i fynd i'r afael â'r heriau ehangach a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig yn ein rhaglen ehangach i wella llywodraethu dŵr yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i fynd i'r afael ag anghenion rheoleiddio ar unwaith, tra hefyd yn casglu adborth gwerthfawr a fydd yn llywio camau diwygio yn y dyfodol. Trwy gydweithio â Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid ar draws y sector dŵr, gallwn sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i ddiogelu ein hadnoddau naturiol, gwella ansawdd dŵr, a sicrhau manteision hirdymor i bobl ac amgylchedd Cymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar y cynnydd rydym wedi'i wneud trwy fentrau ar y cyd diweddar rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, megis y Bil Mesurau Arbennig Dŵr a'r Comisiwn Adolygu Rheoleiddio Dŵr. Mae'r Bil yn ceisio cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cyflawni eu rhwymedigaethau, tra bod y Comisiwn yn gweithio i foderneiddio'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer dŵr yn y DU. Gyda'i gilydd, nod yr ymdrechion hyn yw creu sector dŵr sy'n wydn, yn gynaliadwy yn amgylcheddol, ac yn barod i gwrdd â heriau poblogaeth sy'n tyfu a'r argyfwng hinsawdd parhaus.

Er bod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Dŵr Ymdrochi yn cael ei rannu ar draws y ddwy wlad, mae gweithrediad a rheolaeth y rhaglen dŵr ymdrochi yng Nghymru wedi'i ddatganoli'n llawn. Fy mlaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod unrhyw newidiadau rheoleiddio er budd Cymru ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'n cymunedau, ein hamgylchedd a'n heconomi. Byddwn yn aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein hamcanion yng Nghymru orau.

Mae ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod safleoedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru yn cael eu nodi'n iawn, a bod eu hansawdd dŵr yn cael ei fonitro'n effeithiol.