Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU o dan y gyfraith yn 2020, a chyflwynodd Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 y rhan fwyaf o’r darpariaethau cyfreithiol o dan y pwerau a roddwyd gan Ddeddf y Newid yn yr Hinsawdd 2008. Gwnaed diwygiadau wedyn ddiwedd 2020 i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 er mwyn i Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU fedru weithredu o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n sail i Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn cael ei chyflwyno'n raddol, drwy gyfres o offerynnau statudol. Mae’r gyfres hon o OSau yn cael ei hamseru a’i gwneud mewn trefn a fydd yn sicrhau bod darpariaethau cyfreithiol penodol yn cael eu cyflwyno wrth iddynt ddod yn angenrheidiol yn weithredol. Cafodd yr holl ddeddfwriaeth yr oedd ei hangen er mwyn sefydlu'r cynllun ei gwneud yn 2020. Fodd bynnag, mae angen darpariaethau cyfreithiol sydd heb gael eu gwneud ac sydd, er nad ydynt yn hanfodol ar gyfer sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ar 1 Ionawr 2021, yn cael eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn gweithredu'r cynllun.

Ar 28 Gorffennaf, bydd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, sy'n cynnwys pedair Llywodraeth y DU, yn cyhoeddi ymgynghoriad a dau offeryn statudol drafft gwahanol er mwyn mynd i'r afael â nifer o faterion technegol a gweithredol a nodwyd wrth ddatblygu a diwygio Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

Disgwylir i'r offerynnau statudol gael eu gosod ym mis Tachwedd ar ffurf Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor.

Disgwylir i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2021 gael ei gyflwyno o dan y weithdrefn negyddol, ar ôl y Cyfrin Gyngor.

Bydd Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2021 yn cael ei gyflwyno o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, a disgwylir i’r gorchymyn hwnnw hefyd gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2020, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyfrin Gyngor.

Bydd y ddau Orchymyn yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn parhau’n bolisi pwysig wrth i'r Llywodraeth hon fynd ar drywydd datgarboneiddio. Ar ôl toriad yr haf, rwy'n disgwyl cyhoeddi datganiad arall a fydd yn nodi opsiynau cychwynnol ar gyfer datblygu mwy ar Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU, gyda'r nod o ddarparu cynllun mwy effeithiol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.