Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ar 20 Medi, fe wnes i lansio ymgynghoriad ar y cynnig i ddarparu diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol am 3 blynedd academaidd (2022 i 2025). Roedd yr ymgynghoriad yn nodi y byddai'r diwrnod HMS ychwanegol arfaethedig yn cael ei deilwra'n benodol i gefnogi'r proffesiwn yn sgil cyflwyno Cwricwlwm i Gymru a blaenoriaethau cenedlaethol eraill, megis diwygio’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol a thegwch mewn addysg. Roedd hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylid rhoi'r hyblygrwydd i ysgolion benderfynu pryd i drefnu unrhyw ddiwrnodau HMS ychwanegol.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynnig. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn cytuno y dylid rhoi hyblygrwydd i ysgolion benderfynu pryd i drefnu’r diwrnod HMS ychwanegol. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno ymhellach y dylid ei gwneud yn orfodol bod unrhyw ddiwrnod HMS ychwanegol yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol ar gyfer dysgu proffesiynol, er mwyn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau o ran y system addysg yng Nghymru. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma.
Mae tystiolaeth ymchwil ac arolygu yn dangos mai'r dylanwad pwysicaf un ar lwyddiant dysgwyr o fewn y system addysg yw ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Bydd darparu'r diwrnod HMS ychwanegol o fewn y flwyddyn academaidd gyfredol a’r 2 flynedd academaidd nesaf, felly, yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod athrawon yn cael eu cefnogi i ystyried sut bydd y cwricwlwm a diwygiadau addysg eraill yn effeithio ar ganlyniadau dysgwyr.
Rwy'n bwriadu gosod rheoliadau yn nhymor y gwanwyn i sicrhau bod y diwrnod HMS ychwanegol ar gael i ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol. Bydd y rheoliadau hyn hefyd yn lleihau nifer y sesiynau gofynnol ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23 i ystyried y gwyliau banc ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer Angladd Gwladol EM y Frenhines Elizabeth II ac a ddarperir ar gyfer Coroni EF y Brenin Charles III.