Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi ymgynghoriad yn gofyn barn am gynigion i ddiweddaru'r trothwyon enillion y gall yr awdurdodau lleol eu defnyddio wrth adfer y dreth gyngor mewn rhai amgylchiadau.
Rwyf yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gwneud ei gorau glas i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael yn anodd cael dau ben y llinyn ynghyd, yn enwedig yng ngoleuni effeithiau'r pandemig. Mae'n iawn ein bod yn cefnogi'r teuluoedd a'r unigolion hyn, a bydd y newid hwn yn gam tuag at leddfu'r baich ariannol ar aelwydydd incwm isel yng Nghymru.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i geisio ffyrdd o ddiwygio'r dreth gyngor i sicrhau system decach i bawb. Mae ein cynlluniau'n cynnwys edrych unwaith eto ar y ddeddfwriaeth sy'n cefnogi system y dreth gyngor.
Lle mae aelwydydd sy'n gweithio'n mynd i ôl-ddyledion gyda'u treth gyngor, gall yr awdurdodau lleol ofyn am Orchymyn Atafaelu Enillion er mwyn adfer yr ôl-ddyledion mewn rhandaliadau o'u henillion. Mae'r symiau y gellir eu hadennill yn ddarostyngedig i derfynau yn seiliedig ar drothwyon enillion a nodir mewn deddfwriaeth. Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion i uwchraddio'r trothwyon hyn i adlewyrchu'r newidiadau yng nghost byw. Byddai'r newidiadau hyn yn galluogi talwyr y dreth gyngor sydd mewn ôl-ddyledion ac sydd ar incwm isel i gadw mwy o'u henillion wythnosol neu fisol a lledaenu cost eu dyled.
Mae hyn yn gyfle i wneud ein system dreth gyngor yn decach ac rwyf yn awyddus i glywed barn pawb. Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad, byddaf yn ystyried diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n pennu'r trothwyon enillion, er mwyn i unrhyw newidiadau deddfwriaethol ddod i rym o 1 Ebrill 2022.
Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael yn:
Trothwyon incwm ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion | LLYW.CYMRU