Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Yr wyf yn lansio Ymgynghoriad heddiw ar ddiogelu ein hasedau cymunedol. Mae’r ddogfen ymgynghori yn ceisio barn ar dri opsiwn, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu model penodol ar gyfer Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 11 Medi 2015 a byddaf innnau’n adrodd yn ôl i Aelodau’r Cynulliad am ganfyddiadau’r ymgynghoriad a’r camau nesaf yn ystod hydref 2015.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gysylltiedig â’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gweithgor Asedau Cenedlaethol a’r canllawiau cyffredinol a lansiwyd gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llyowdraeth yn ogystal â’r pecyn cymorth sector-benodol a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar lein.