Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nod Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (a gyhoeddwyd yn 2008) yw cefnogi’r ymdrechion i ddatblygu pysgodfeydd hyfyw a chynaliadwy yng Nghymru.

Mae’n rhan annatod o bolisïau cydlynol ar gyfer diogelu cyflenwadau pysgod a’r amgylchedd morol. Er mwyn ein helpu i gyrraedd y nod hwn, cyflwynwyd rheoliadau i atal cychod sy’n fwy na maint penodol rhag cael eu defnyddio i bysgota mewn ardaloedd dynodedig o’r parth 0-6 milltir forol.

Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau hyn ar faint cychod, gwnaed nifer o ddarpariaethau pontio i sicrhau nad oedd y cyfyngiadau’n effeithio’n ormodol ar bysgotwyr. Roedd y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn bosibl eithrio cychod sydd dros y maint penodol os oeddent yn bodloni rhai meini prawf (sydd gan amlaf yn ymwneud â’r dyddiad y daeth y cwch i feddiant y pysgotwr neu’r defnydd blaenorol a wnaed ohono). Mae cychod o’r fath wedi parhau i gael pysgota yn yr ardal sydd dan gyfyngiadau. Dros y blynyddoedd, rhoddwyd yr enw ‘hawliau hanesyddol’ neu ‘hawliau tad-cu’ ar y darpariaethau pontio/eithrio hyn.

Bellach, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r cyfyngiadau ar faint cychod ddod i rym, ac felly rydym o'r farn bod y pysgotwyr perthnasol wedi cael digon o gyfle i addasu eu harferion pysgota er mwyn gallu cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyn. O ystyried hynny, ac yng ngoleuni'r amcanion ehangach o ddiogelu cyflenwadau bregus o bysgod a’r amgylchedd morol, awgrymwyd nad yw parhau â’r darpariaethau pontio neu eithrio hyn bellach yn briodol.

O ganlyniad, rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar ddiddymu’r darpariaethau pontio/eithrio hyn er mwyn sicrhau y bydd yn rhaid i bob cwch pysgota o Brydain gadw at y cyfyngiadau ar faint cychod sydd mewn grym ar hyn o bryd ar draws yr ardal 0-6 milltir forol ar hyd arfordir Cymru, a hynny yn ddi-eithriad.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 2/2/12, a’r gobaith yw y byddaf yn gallu rhoi darpariaethau gerbron y Cynulliad erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.