Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd yr ‘Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol’ ei gyhoeddi ar 26 Tachwedd 2012 ar gyfer cyfnod ymgynghori o 13 wythnos, a ddaeth i ben ar 22 Chwefror 2013.      

Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, ac amgaeaf gopi o'r adroddiad er gwybodaeth i'r Aelodau.  Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar dudalennau ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen heddiw.

Cawsom ymateb ardderchog i'r ymgynghoriad, gan dderbyn 147 o ymatebion ysgrifenedig.  Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (129) wedi ateb y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori; fodd bynnag, roedd nifer fach ohonynt (18) heb ddilyn y fformat hwnnw.

Roedd cynnal ymgynghoriad yn un o'r ymrwymiadau yn natganiad deddfwriaethol Prif Weinidog Cymru ym mis Gorffennaf 2012. Yn y datganiad hwnnw fe gadarnhawyd y bwriad i gyhoeddi ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y Bil i Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.  Roedd hynny hefyd yn cefnogi'r ymrwymiad i gyflwyno Bil ar Gam-drin Domestig a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – sy’n broblem gymdeithasol barhaus. Gwyddom ei bod yn broblem sy’n effeithio ar bobl o bob cefndir, ac ar fywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru.

Yn sgil y digwyddiadau ymgysylltu a gafodd eu cynnal yn ystod haf 2012, ac adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, roedd y Papur Gwyn yn nodi cwestiynau a oedd yn seiliedig ar dair prif thema:

  • Gwella arweinyddiaeth ac atebolrwydd;
  • Gwella addysg ac ymwybyddiaeth;
  • Atgyfnerthu gwasanaethau yng Nghymru.

Roedd y mwyafrif o'r ymatebion o blaid y cynigion a amlinellwyd yn y Papur Gwyn. Roedd nifer wedi nodi eu bod o'r farn y byddai'r cynigion yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau'r rhai hynny sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Ar ben hynny, roedd y mwyafrif o'r ymatebion yn cynnig cyngor manwl hefyd ar sut y gellid rhoi'r cynigion hynny ar waith.

Mae'r adroddiad cryno'n amlinellu prif themâu'r ymatebion, gan gynnwys y rhai hynny a gododd yn y digwyddiadau ymgysylltu.  Bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn dylanwadu ar ddatblygu'r Bil.

Credaf y bydd Bil sy'n anelu at Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn helpu i sicrhau bod Cymru'n cymryd camau allweddol i fynd i'r afael â'r broblem, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno'r Bil hwnnw yn ystod 2014.