Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymgynghoriad ar is-ddeddfwriaeth ar gyfer trefniadau asesu o ganlyniad i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) wedi’i lansio heddiw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr a chyd-weithwyr ar draws y system addysg i gyd-awduro’r dull a fabwysiedir a’r ddogfen ymgynghori.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, rwy’n ceisio barn ar gynigion polisi manwl yn ymwneud â phedwar darn penodol o is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn darparu trosolwg llawn o’r dull asesu yn y Cwricwlwm i Gymru a phrosesau cysylltiedig sydd eu hangen i gefnogi cynnydd dysgwyr.  

Yn benodol, mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi sut yr ydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf i wneud rheoliadau ynghylch asesu a chynnydd, ac mae’n ceisio barn ar ein dull polisi arfaethedig. Y bwriad yw gwneud dau ddarn newydd o is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf a diwygio dwy gyfres o reoliadau sy’n bodoli eisoes.

Dyma’r ddau ddarn newydd o is-ddeddfwriaeth a gynigir:

  • Adran 56 – Dyletswydd i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu Rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i “berson perthnasol” wneud, gweithredu ac adolygu trefniadau asesu;
  • Adran 57 – Hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd – sy’n caniatáu i Gyfarwyddyd gael ei roi i berson perthnasol ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i hybu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Dyma’r ddwy gyfres o reoliadau sy’n bodoli eisoes ac sydd angen eu diwygio i sicrhau bod y gofynion presennol yn cyd-fynd â’r Ddeddf ac ethos y cwricwlwm a’r trefniadau asesu:

  • Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd a reoleiddir ar hyn o bryd o dan Reoliadau Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006;
  • Rhoi adroddiad i rieni/gofalwyr – a reoleiddir ar hyn o bryd o dan Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011.

Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau arfaethedig hyn mewn is-ddeddfwriaeth yn nodi’n glir ein hamcanion mewn perthynas ag asesu mewn ysgolion, y berthynas rhwng hynny a chynnydd a thrawsnewid ac, yn bwysig, sut y bydd rhieni a gofalwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu cefnogi yn y cyswllt hwn.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma, a’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 31 Hydref 2021. Rwy’n croesawu ac yn annog safbwyntiau gan bob un a chanddo fuddiant yn y diwygiadau, i helpu i barhau i lywio a darparu’r Cwricwlwm i Gymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.