Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Bydd y Ddeddf yn gwella diogelwch deiliadaethau ar gyfer rhentwyr drwy, ymhlith pethau eraill, estyn y cyfnod hysbysu mae’n rhaid i landlordiaid ei roi wrth geisio adfeddu eu heiddo mewn achosion pan nad oes bai ar y rhentwr. Nid yw’r cyfnod hysbysu hwy o chwe mis yn berthnasol ond i’r contractau meddiannaeth hynny y cytunir arnynt ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Ddeddf i rym. Fodd bynnag, heddiw rwy’n cychwyn ymgynghoriad ar gynnig i gymhwyso cyfnodau hysbysu o chwe mis i denantiaethau presennol sy’n trosi i gontractau meddiannaeth o dan y Ddeddf. Cynigir bod y newid hwn yn cael ei roi ar waith chwe mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, er mwyn rhoi digon o amser i landlordiaid ac eraill wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer ei weithredu.

Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, bydd yn fodd o gydraddoli hawliau rhentwyr nawr ac yn y dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod y manteision a geir o wella diogelwch deiliadaethau ar gael i bawb.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 24 Hydref 2022 a byddwn yn croesawu ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater pwysig hwn.