Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Daeth ymgynghoriad y Trysorlys ar ddatganoli Treth Tir y Dreth Stamp i Gymru i ben dair wythnos yn ôl. Ar 5 Medi, cyhoeddais y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, roeddwn i’n falch o gael cwrdd â chynrychiolwyr o fusnesau Cymreig ym maes adeiladu, buddsoddi mewn eiddo a sectorau cysylltiedig, fel cyfreithwyr a chyfrifwyr, i glywed eu barn am y Dreth Stamp a sut gellir ei diwygio yn y dyfodol os caiff ei datganoli i Gymru. Roedd yn amlwg o’r trafodaethau hyn bod cefnogaeth gref dros ddatganoli’r dreth stamp, ac roedd yn galonogol bod pobl mor awyddus i drafod gyda mi a chydnabod y byddai datganoli’n gweithio er budd economi Cymru.
Clywais am lu o syniadau diddorol ac adeiladol ynghylch sut gellid diwygio’r dreth hon mewn ffyrdd a fydd o fudd i adeiladwyr tai, prynwyr tai a’r economi yn gyffredinol, oedd yn cynnwys:
- cael gwared ar elfen 'slab' y dreth;
- helpu grwpiau allweddol, fel prynwyr cyntaf;
- trin tir gwyrdd, tir llwyd a thir ymylol yn wahanol i’w gilydd;
- gwrthbwyso costau gwelliannau amgylcheddol newydd ac eraill;
- ailgyflwyno rhyddhad i ardaloedd dan anfantais.
Bydd angen ystyried y materion hyn yn ofalus wrth i’r agenda hon ddatblygu.
Fodd bynnag, y neges fwyaf eglur oedd pa mor bwysig yw hi i weithio’n agos gyda’r gymuned fusnes wrth ddatblygu’n polisïau. Mae’r cyfarfodydd rwyf eisoes wedi’u cynnal yn tanlinellu fy ymrwymiad i gadw mewn cysylltiad agos â busnesau. Bydd eu cyfraniad hwy – a chyfraniad rhanddeiliaid eraill – yn cyfrannu’n allweddol at lunio trethi Cymreig yn y dyfodol.
Er ei bod yn amlwg ei bod yn bryd diwygio’r Dreth Stamp, ni allwn symud ymlaen nes i Lywodraeth y DU ymateb i adroddiad cyntaf y Comisiwn Silk. Dyna pam fy mod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn.