Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddais ymgynghoriad mewn partneriaeth â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ar gynigion yn ymwneud â chyfeiriad a datblygu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn y dyfodol. Roedd ein cynigion yn seiliedig ar y gwaith cysylltu a thrafod helaeth a wnaed ymlaen llaw gyda busnesau a rhanddeiliaid, a nodwyd mai'r weledigaeth yw creu sector bwyd a diod cryf a llewyrchus yng Nghymru fydd ag enw da ledled y byd am ei ragoriaeth, ac un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd. Nodau strategol y cynigion oedd tyfu'n busnesau o ran eu maint, eu gwerth a'u cynhyrchiant, er budd ein pobl a'n cymdeithas, a chreu enw da i Gymru ym mhedwar ban byd fel 'Cenedl Fwyd'. Roedd y cynigion wedi’u gwreiddio'n gadarn yn Ffyniant i Bawb, yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, ac yn y ffaith bod bwyd yn rhan o'r economi sylfaenol.
Mae'r Bwrdd a minnau yn falch o weld y ddiddordeb yn ein cynigion a hoffem ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn llunio ymateb. Daeth ymatebion i law oddi wrth bron 90 o sefydliadau ac unigolion. Roeddent yn cynnwys amrywiaeth eang o ymgyngoreion, y mwyafrif yn aelodau o sefydliadau busnes a masnach. Roedd cefnogaeth gref i'r cynigion ac i'r weledigaeth a'r genhadaeth a gynigiwyd gennym. Rwy'n falch o gael cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r ymatebion a ddaeth i law, ac sydd ar gael ar wefan Bwyd a Diod Cymru.
Mae'r Bwrdd a minnau wrthi bellach yn ystyried sut i ddefnyddio'r adborth adeiladol hwn wrth inni fynd ati i ddatblygu mwy ar y cynigion yn y cynllun. Drwy bennu cyfeiriad clir a diben cyffredin a thrwy weithredu ar y cyd y mae sicrhau y bydd y diwydiant yn llwyddo, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy pwysig gan fod Brexit ar ein gwarthaf. Rydym yn dra ymwybodol bod y llwyddiant hwnnw'n fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rhaid inni wynebu'r heriau sy'n gysylltiedig â gwella iechyd y cyhoedd, â defnyddio adnoddau mewn ffordd fwy cynaliadwy mewn economi fwy cylchol, sicrhau gwaith teg i'n pobl, a chreu delwedd a brand cryf i Gymru fel 'cenedl fwyd.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.