Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cynlluniwyd y Cwricwlwm i Gymru i gyflawni pwrpas penodol, gyda'r nod o ddatblygu dinasyddion gwybodus, unigolion iach a hyderus, cyfranwyr mentrus mewn cymdeithas, a dysgwyr gydol oes galluog ac uchelgeisiol sy'n barod ar gyfer eu camau nesaf pan fyddant yn gorffen addysg orfodol yn 16 oed.
Rydym am gefnogi dysgu a chynnydd o fewn y pedwar diben drwy ddefnyddio data a gwybodaeth mewn ffordd sy'n rhoi'r lle canolog i anghenion dysgwyr, a thrwy hyn, alluogi ysgolion i ddeall eu dysgwyr a'u llywio wrth lunio eu hunanwerthuso a'u cynlluniau gwella. Dylai ein defnydd o ddata ei gwneud yn bosibl i hyn ddigwydd heb roi baich ychwanegol ar y gweithlu neu ddargyfeirio'r system oddi wrth yr hyn sydd orau i ddysgwyr, gan gefnogi ein hymgyrch i godi safonau.
O fis Medi 2025, bydd dysgwyr Cwricwlwm i Gymru yn cael eu haddysgu i Flwyddyn 10, ac erbyn mis Medi 2026, bydd yn gweithredu'n llawn ar draws y continwwm 3-16 oed. Rydym yn cydnabod bod Blynyddoedd 10 ac 11 yn hollbwysig wrth i fyfyrwyr ddechrau ymgymryd ag asesiadau allanol ar gyfer cymwysterau sy'n dylanwadu'n sylweddol ar eu dewisiadau a'u llwybrau yn y dyfodol.
Fis Medi diwethaf, cyhoeddais ganllawiau statudol ar ddysgu 14-16 o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r polisi ar gyfer addysgu a dysgu yn y grŵp oedran hwn, ac yn esbonio'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ysgolion a nodir mewn deddfwriaeth. Maent yn rhan o fframwaith ehangach Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau yn nodi disgwyliadau cenedlaethol clir er mwyn sicrhau dull cyson o weithredu ym mhob ysgol.
Wrth wraidd y canllawiau hyn mae Hawl i Ddysgu 14 i 16, sy'n manylu ar y cyfleoedd dysgu y dylid eu darparu i bob myfyriwr Blwyddyn 10 ac 11 o dan Cwricwlwm i Gymru. Nod yr Hawl i Ddysgu yw sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn llwybr sy'n addas iddyn nhw, a bod ysgolion yn eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf.
Mae'r Hawl i Ddysgu hefyd yn darparu fframwaith i ysgolion hunanwerthuso a myfyrio ar ddysgu, cynnydd a chyflawniadau eu myfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, gan ganiatáu iddynt gynllunio ar gyfer gwelliannau pellach.
Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer y canlynol
- Dull o ymdrin â data a gwybodaeth a set o egwyddorion ar gyfer ecosystem wybodaeth: Ein nod yw sefydlu cyd-ddealltwriaeth o sut y dylid defnyddio data a gwybodaeth o fewn y system ysgolion. Rydym wedi datblygu cyfres o egwyddorion fel arweiniad ac yn ceisio adborth ar ba mor dda y mae'r egwyddorion hyn yn adlewyrchu ein nodau.
- Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14 i 16 Rydym yn cynnig fframwaith i gefnogi dealltwriaeth gytbwys o gwricwla 14 i 16 a chyflawniad dysgwyr mewn ysgolion. Bydd y dangosyddion a'r fframwaith, sy'n cyd-fynd â'r Hawl i Ddysgu, yn disodli "mesurau perfformiad interim Cyfnod Allweddol 4" (gan gynnwys Capio 9). Rydym am wybod a yw rhanddeiliaid yn credu bod y cynigion hyn yn cyd-fynd â'n hamcanion polisi, ac rydym yn chwilio am adborth ar strwythur y fframwaith a heriau posibl yn ystod y cyfnod pontio i'r trefniadau newydd hyn. Yn ogystal, rydym yn ceisio barn ar ddatblygu systemau ar gyfer adrodd a dadansoddi data, a lle gallai fod angen arweiniad pellach.
Bydd y polisi dysgu 14 i 16 a'r gofynion gwybodaeth ategol yn llywio fframwaith arolygu Estyn o fis Medi 2025.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn ystod haf 2025. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn rhyddhau datganiad yn amlinellu ein dull newydd o ddefnyddio data a gwybodaeth mewn ysgolion a Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14-16. Bydd hyn yn cynnwys ein camau nesaf o ran gwella'r broses adrodd, datblygu pecynnau, a chreu adnoddau ategol.
Rydym eisiau deall sut y gallai ein cynigion effeithio ar ysgolion. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn cynnal ‘asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith’ a gaiff ei gyhoeddi fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig cyffredinol yn yr haf. Rydym wedi cynnwys cwestiwn ymgynghori penodol i gasglu barn ymarferwyr ar sut y gallai'r cynigion hyn effeithio ar lwyth gwaith.
Rwy'n croesawu sylwadau ar ein cynigion.