Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a Carl Sargeant, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 21 Mai 2012, cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth y Papur Gwyn ar Dai, Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy o ansawdd da ar gael i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymrwymiad i foderneiddio'r sector rhentu preifat drwy gyflwyno mesurau i wella safonau rheoli a chyflwr eiddo.

Un o’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu oedd mynd i’r afael ag eiddo gwag.  Yn ogystal â chyflwyno Troi Tai'n Gartrefi, menter tai gwag genedlaethol lwyddiannus yn cymell perchnogion i ddefnyddio eu heiddo unwaith eto, roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer pŵer disgresiwn i ganiatáu i Awdurdodau Lleol godi cyfradd uwch o'r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor.  Rydym wedi nodi’r ymatebion i'r ymgynghoriad, a hefyd wedi ystyried sylwadau eraill a wnaed fel rhan o’r ymatebion hynny.  Roedd rhai ymatebion yn cyfeirio at godi treth gyngor ychwanegol ar “ail gartrefi”. O ystyried hyn, ac er mwyn cael mwy o sylwadau, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar godi treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi.

Mae’r amcanion sydd wrth wraidd codi treth gyngor uwch ar eiddo gwag hirdymor yn glir. Mae cartrefi gwag yn adnodd tai y dylid dechrau ei ddefnyddio unwaith eto, yn enwedig ar adeg pan mae angen mwy o gartrefi fforddiadwy. Maent hefyd yn gallu denu ymddygiad gwrthgymdeithasol a chael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ac yn gallu arwain at drobwll o ddirywiad mewn rhai cymunedau.

Nid yw’r un problemau yn berthnasol i ail gartrefi. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod cymunedau â mwy o ail gartrefi – gyda rhai ohonynt yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau o bosibl – yn wynebu problemau gwahanol. Gallai’r problemau hyn gynnwys cynaliadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau a chyfleusterau lleol, er enghraifft. Felly, mae'r Llywodraeth yn dymuno cynnal ymgynghoriad ar y mater hwn.

Heddiw, rydym yn lansio’r ymgynghoriad hwn i wahodd sylwadau ar roi pŵer disgresiwn i Awdurdodau Lleol godi treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi fel ffordd bosibl o helpu Awdurdodau i fynd i'r afael â nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael, ac i gynnal cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn dibynnu arnynt.  

Bydd yr ymgynghoriad yn para am chwe wythnos.  Gofynnir am ymatebion erbyn 28 Hydref 2013. Mae'r papur ymgynghori yn cael ei roi i Awdurdodau Lleol, cymdeithasau tai, asiantaethau cynghori a chyrff perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn trethi lleol, tai, a lles dinasyddion yng Nghymru. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgychwyn, rwyf yn fwy na pharod i wneud hynny.