Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 12 wythnos ar gyflwyno cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol i Anifeiliaid.  

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Caiff gwerthoedd ein cymdeithas eu hadlewyrchu'n glir yn y ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid.  Dylid amddiffyn anifeiliaid rhag poen, anafiadau, ofn a gofid ym mhob cyfnod o'u bywydau.

Mae pryderon wedi'u mynegi nad yw anghenion lles rhai anifeiliaid sy'n cael eu cadw gan Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid, gan gynnwys syrcasau, yn gallu cael eu diwallu mewn amgylchedd teithio. Mae enghreifftiau o Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yn cynnwys arddangosfeydd heboga teithiol, anifeiliaid anwes egsotig sy'n cael eu cymryd i ysgolion at ddibenion addysgol, ceirw Llychlyn mewn digwyddiadau adeg y Nadolig ac, wrth gwrs, anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio mewn syrcasau.

Ceir amrywiaeth o wahanol fathau o Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid ac nid oes unrhyw drefn drwyddedu safonol na gofynion i gynnal archwiliadau rheolaidd. Mae'n rhaid inni benderfynu a oes angen newid y polisi a/neu'r gyfraith yng Nghymru i amddiffyn lles anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid. Gallai cynllun trwyddedu neu gofrestru wella lles anifeiliaid mewn amgylcheddau teithiol ynghyd â chyfreithloni'r busnesau sy'n gweithredu fel Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yng Nghymru.  

Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn gwahodd sylwadau ynghylch gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn, y cyntaf i drafod y pwnc, yn cael eu defnyddio i lunio'r camau nesaf.  Yn ogystal ag ateb y cwestiynau yn yr ymgynghoriad, byddwn yn annog y rhai sy'n ymateb i ddarparu gwybodaeth, sylwadau neu dystiolaeth ychwanegol a all fod yn ddefnyddiol yn eu barn hwy.  Bydd pobl ifanc hefyd yn cael eu hannog i fynegi eu safbwyntiau yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 drwy lenwi holiadur byr.

I gael manylion yr ymgynghoriad ewch i wefan Llywodraeth Cymru: www.cymru.gov.uk