Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch iawn heddiw o allu lansio ymgynghoriad i geisio barn ar Addysg yn y Cartref – Canllawiau Statudol drafft i Awdurdodau Lleol a Llawlyfr i Addysgwyr yn y Cartref.

Mae'r strategaeth genedlaethol – "Ffyniant i Bawb" – yn cydnabod y dylai taith addysgol plentyn fod yn un o adegau mwyaf cyfoethog a gwerthfawr ei fywyd, gan ei alluogi i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arno i gyflawni ei botensial.

Mae gan bob plentyn yr hawl sylfaenol i gael addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad rhai rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, ond rhaid cydbwyso hyn â hawl absoliwt plant i gael addysg addas. Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gael addysg addas, a bod teuluoedd yn cael cymorth os byddant am ei gael er mwyn eu helpu i addysgu eu plant yn y cartref.

Mae'r canllawiau statudol yn newid yr hyn y disgwylir i awdurdodau lleol ei wneud ar hyn o bryd a bydd yn eu helpu i gyflawni eu dyletswydd bresennol i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Yn ogystal â rhoi eglurder ynglŷn â nodweddion addysg addas, mae'r canllawiau statudol yn atgyfnerthu'r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol eu defnyddio pan na ddarperir addysg addas. Maent hefyd yn rhoi eglurder o ran y cymorth y gallai awdurdodau lleol ei gynnig i addysgwyr yn y cartref yn eu hardaloedd.

Yn benodol mae'r canllawiau yn:

  • Nodi y dylai plant gael eu hystyried yn rhan o'r broses o asesu addasrwydd addysg unwaith y flwyddyn o leiaf, oni fydd problemau eraill yn codi lle mae angen cynnal cyfarfodydd mwy rheolaidd yn eu cylch;
  • Atgyfnerthu bod yn rhaid i awdurdodau lleol weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas.

Rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau bod rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref yn teimlo'n hyderus nad yw'r cynigion hyn wedi'u cynllunio i amharu ar eu hawl i fywyd teuluol preifat. Budd pennaf y plentyn sydd bwysicaf a ph'un a yw'n cael ei addysgu yn yr ysgol neu yn y cartref, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod plant yn cael pob cyfle i wneud eu gorau mewn byd heriol sy'n newid drwy'r amser.

Caiff nifer o wasanaethau iechyd, gofal a chymorth cyffredinol a gwasanaethau ieuenctid eu hwyluso drwy'r ysgol ac, o ganlyniad, nid yw rhai plant a addysgir yn y cartref na'u teuluoedd yn ymwybodol o'u hawliau ac yn colli'r cyfle i fanteisio ar fentrau a gwasanaethau allweddol o bosibl.    Dyna pam ein bod wedi llunio llawlyfr i deuluoedd sy'n addysgu eu plant yn y cartref sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol.

Cyn hyn, rwyf wedi cyhoeddi fy mwriad i ymgynghori ar ddefnyddio pwerau sy'n bodoli eisoes o dan adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i sefydlu rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu cronfa ddata o blant oedran ysgol gorfodol, gan gynnwys y rhai nad ydynt ar unrhyw gofrestr addysg. Bydd y rheoliadau hefyd yn rhoi dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ac ysgolion annibynnol i rannu ychydig bach o wybodaeth anghlinigol i boblogi'r gronfa ddata. Bydd y pwerau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata eithaf cyflawn o blant nad ydynt ar unrhyw gofrestr addysg er mwyn eu helpu i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas.

Cynhelir ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar wahân. Gwneir hyn am fod swyddogion yn cynnal ymarfer cwmpasu helaeth gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol, ysgolion annibynnol a byrddau iechyd lleol. Rydym am sicrhau bod y gronfa ddata mor gynhwysfawr â phosibl, ond nad yw'n rhoi baich gweinyddol anghymesur ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol nac ysgolion annibynnol.  

Hoffwn ailadrodd y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad rhieni i addysgu eu plant yn y cartref.  Mae'r canllawiau drafft yn cydnabod y gall addysg yn y cartref fod yn rhywbeth unigol unigryw i blant sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion a buddiannau penodol pob plentyn. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb mewn addysg yn y cartref leisio barn er mwyn ein helpu i ddatblygu ein cynigion ymhellach a cheisio ymdrin ag unrhyw bryderon yn y dyfodol. I gefnogi hyn, byddwn yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori ledled Cymru. Bydd y rhain yn cynnwys gweithdai yn benodol i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu hawl i gael eu clywed o dan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei chynnal.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.