Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r sefyllfa o ran sicrwydd deiliadaeth i bobl sy'n rhentu eu cartrefi. 

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn allweddol er mwyn gwneud rhentu yn ddewis cadarnhaol ac er mwyn rhoi sicrwydd deiliadaeth. Fodd bynnag, gohiriwyd gweithredu'r Ddeddf yn sgil diwygio systemau TG llysoedd Cymru a Lloegr.

Bellach, rydym mewn sefyllfa i allu bwrw ymlaen i weithredu'r Ddeddf bwysig hon. Byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i roi chwe mis o rybudd cyn gweithredu'r Ddeddf er mwyn i landlordiaid, asiantaethau, a'r rheini sydd â chytundebau tenantiaeth a thrwyddedu - y cyfeirir atynt fel deiliaid contractau o dan y Ddeddf - gael amser i baratoi ar gyfer y newidiadau.

Mae'r Ddeddf yn darparu sail newydd, symlach, ddiwygiedig ar gyfer gosod eiddo preswyl yng Nghymru, gan sicrhau manteision i unrhyw un sy'n rhentu eu cartref. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Contractau ysgrifenedig gorfodol, yn amlinellu'n glir holl hawliau a chyfrifoldebau perthnasol landlordiaid a deiliaid contractau;
  • Trefniadau ar gyfer cyd-gontractau, a fydd yn atal un deiliad contract rhag penderfynu dod â'r contract i ben ar ei liwt ei hun, gan helpu i atal digartrefedd;
  • Atal tenantiaid rhag cael eu troi allan er mwyn dial - pan fydd landlord yn troi tenant allan mewn ymateb i gais i wneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw;
  • Cyflwyno safon sy'n sicrhau bod eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat, gan gynnwys rheoliadau yn amlinellu gofynion o ran larymau mwg a charbon monocsid, a phrofion diogelwch trydanol.

Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud, yn benodol er mwyn mynd i'r afael â phryderon cyffredin ynghylch y defnydd o'r hawl i droi tenant allan heb fai.

Mae adran 173 o'r Ddeddf, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn caniatáu i berchennog eiddo geisio adennill meddiant o'i eiddo heb i'r contract fod wedi'i dorri, gan roi rhybudd o ddau fis.

Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ynghylch diwygio'r Ddeddf Rhentu Cartrefi cyn iddi ddod i rym. Yn yr ymgynghoriad, dyma'r prif gynigion ar gyfer contractau cyfnodol (contractau sydd heb ddiwedd penodol):

  • Ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir, sy'n berthnasol i hysbysiad adran 173, o ddau fis i chwe mis;
  • Cyfyngu ar hawl landlord rhag rhoi hysbysiad adran 173 o fewn chwe mis cyntaf contract cyfnodol, yn hytrach nag o fewn pedwar mis fel ag a ganiateir ar hyn o bryd;
  • Gosod cyfyngiad amser o chwe mis ar roi hysbysiad adran 173 ar ôl i gyfnod hysbysiad blaenorol ddod i ben.

Dyma'r prif gynigion ar gyfer contractau cyfnod penodol (contractau y cytunwyd ar ddiwedd penodol iddynt):

  • Diddymu hawl landlord i ddod â chontract safonol cyfnod penodol i ben o dan adran 186;
  • Ystyried y defnydd o gymalau terfynu mewn contractau cyfnod penodol.

Rydym hefyd am holi barn pobl am gynigion eraill y bwriedir iddynt ategu'r cynigion uchod, gan gynnwys:

  • Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau adennill meddiant i landlordiaid y mae'r llysoedd wedi canfod eu bod wedi troi tenant allan er mwyn dial;
  • Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau adennill meddiant i berchnogion eiddo sydd wedi torri cyfreithiau eraill ym maes tai rhent, ee methu â darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni neu dystysgrif diogelwch nwy ddilys.

Rwyf o'r farn y bydd y cynigion hyn yn gwella'r sefyllfa o ran sicrwydd deiliadaeth i bawb sy'n rhentu yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sy'n rhentu gan berchnogion eiddo cymdeithasol, sydd hefyd yn cael defnyddio hysbysiadau heb fai mewn rhai sefyllfaoedd. 

Mae yna resymau cyfreithlon pam y gallai fod angen i berchennog eiddo adennill meddiant o'i eiddo, ee er mwyn byw yno ei hun. Mae sicrhau'r cydbwysedd iawn yn hollbwysig os ydym am gynnal a hyrwyddo sector rhentu preifat hyfyw sy'n darparu cartrefi o safon uchel.

Mae'r ddogfen ymgynghori a'r cwestiynau i'w gweld yn https://llyw.cymru/ymestyn-y-cyfnod-hysbysu-byrraf-ganiateir-cyn-troi-tenant-allan-heb-fai a daw'r ymgynghoriad i ben ar 5 Medi.