Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi ymgynghoriad ar ychwanegu mwy o gyrff i Reoliadau Safonau’r Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â mwy o gyrff o dan y gyfundrefn Safonau cyn diwedd tymor presennol y Senedd. Mae dros 120 o gyrff yn gweithredu Safonau ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw dod â mwy o gyrff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru o dan y gyfundrefn Safonau. Cynigir gwneud hyn drwy ychwanegu cyrff cyhoeddus nad ydynt o dan y gyfundrefn Safonau ar hyn o bryd i Reoliadau Safonau’r Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. 

Fy mwriad yw galluogi’r cyhoedd i ddelio gyda mwy o gyrff cyhoeddus yn Gymraeg. Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y cynigion sydd wedi’u gosod yn y ddogfen ymgynghori, a byddaf yn ystyried yr holl ymatebion cyn gosod Offeryn Statudol terfynol gerbron y Senedd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 7 Hydref 2024.