Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â thlodi plant, a hynny fel prif flaenoriaeth. Mae’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu yn cael eu llywio gan yr angen canolog hwnnw i drechu tlodi ac anghydraddoldebau. Rhaid cydnabod hefyd bod y prif arfau sydd gennym i drechu tlodi, fel budd-daliadau lles a llawer o bwerau cyllidol, yn bwerau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac felly mae cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni weithredu atebion sy’n cael eu gwneud yng Nghymru we mwyn gwneud gwir wahaniaeth.
Rydym yn benderfynol, yma yng Nghymru, o wneud gwahaniaeth go iawn, a gwneud popeth o fewn ein gallu, o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni, i gynnig atebion sy’n cael eu gwneud yng Nghymru sy’n ymdrin ag anghenion penodol plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. I’r perwyl hwnnw, mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed i wireddu’r amcanion hynny.
Y llynedd, cyhoeddais adroddiad cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer 2022, a nodi fy ymrwymiad i adolygu ein Strategaeth Tlodi Plant a gosod ymrwymiad o’r newydd i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig yng Nghymru.
Mae’r strategaeth ddrafft yn ychwanegu at y buddsoddiadau a wnaed dros y degawd diwethaf, yn ailffocysu nodau 2015 ar gyfer rhoi cefnogaeth i deuluoedd ddod allan o dlodi ac yn blaenoriaethu camau gweithredu i liniaru’r effeithiau niweidiol o fod yn byw mewn tlodi a gwella’r cyfleoedd sydd ar gael i blant sy’n byw mewn tlodi.
Mae'r strategaeth hon wedi'i chreu ar y cyd â theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae dros 3,300 o unigolion, gan gynnwys dros 1,400 o blant a phobl ifanc, wedi rhoi o'u hamser i siarad â ni a'n helpu i ddeall yr hyn y mae angen i ni ei flaenoriaethu wrth i ni weithio i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb mewn dull trawslywodraethol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi siarad â ni wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig hwn, a diolch hefyd i'r sefydliadau sydd wedi hwyluso’r gwaith ymgysylltu hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Grŵp Cyfeirio Allanol, a hwyluswyd drwy Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, am eu harbenigedd a'u cefnogaeth.
Nod y strategaeth yw sicrhau bod polisïau allweddol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd a'r rheini yn y dyfodol yn cyflawni polisi Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi. Mae hefyd yn gosod y cyfeiriad i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn galluogi gwell cydweithredu wrth gyflawni ein canlyniadau yn y maes hwn.
Trwy ein gwaith ymgysylltu, clywsom am faterion lle mae polisïau eisoes ar waith. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw rhai o'n huchelgeisiau polisi yn gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr dymunem i bobl o ddydd i ddydd. Er nad yw ein deddfwriaeth yn gwneud darpariaeth i ni allu cyfarwyddo partneriaid, gwyddom y bydd gweithio ar sail trawslywodraethol cryfach yn bwysig i gefnogi cydweithredu rhanbarthol a lleol mwy effeithiol.
Rydym wedi nodi pum amcan sydd, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r meysydd y mae'n rhaid i ni barhau i'w datblygu i wneud newid mesuradwy i fywydau plant a phobl ifanc mewn tlodi, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, a chyflawni ar gyfer y teuluoedd a'r cymunedau y mae plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny ynddynt.
Yna, rydym wedi nodi pum blaenoriaeth i'w cyflawni ar sail pob un o'r amcanion hyn sy'n cael eu disgrifio o dan bob amcan. Mae'r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar y pethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn ôl yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan blant a phobl ifanc, a'r teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ddweud wrthym a ydym wedi deall yr hyn a ddwedwyd ac a ydynt yn cytuno â'r materion blaenoriaeth yr ydym wedi'u nodi.
Rydym yn benderfynol o weithio ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o’r pwerau sydd ar gael i ni. Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid i greu Cymru lle y gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.