Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Mae rheoleiddio gofal plant, drwy gofrestru gwarchodwyr plant a sefydliadau gofal dydd, yn rhoi sicrwydd gwerthfawr i deuluoedd ynghylch ansawdd gofal eu plant. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i sefydliadau gofal plant yn Nghymru gofrestru i ddarparu gofal i blant hyd at wyth mlwydd oed. Er y gall sefydliadau dderbyn plant dros yr oedran hwn, nid oes yn rhaid rheoleiddio'r gofal ar hyn o bryd.
Roedd yr Adolygiad Annibynnol o Gofrestru, Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Plant ac Addysg Gynnar yn argymell y dylai pob math o ofal plant, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer plant wyth oed a throsodd, gael ei gofrestru.
Heddiw, rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru a rheoleiddio gofal plant yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ehangu'r gofyniad i reoleiddio gofal plant i gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer plant wyth oed a hŷn. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ystyried goblygiadau y newidiadau arfaethedig ar ddarparwyr, a'r trefniadau dros dro sydd eu hangen i ysgafnhau'r baich ar ddarparwyr.
Bydd y ddogfen ymgynghori yn rhoi mwy o fanylion ar y cynigion, gan cynnwys newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, y mae disgwyl i bob sefydliad cofrestredig gydymffurfio â hwy.
Rwy'n croesawu safbwyntiau pob rhanddeiliad ar ein cynigion yn gysylltiedig â gofal plant yng Nghymru. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o oblygiadau'r newidiadau arfaethedig i'r sector gofal plant, a bydd yn helpu i sicrhau fod gennym fodel rheoleiddio cymesur, cytbwys ar gael i blant o bob oedran.
Cynhelir yr ymgynghoriad am ddeuddeg wythnos hyd at 5 Mehefin 2015.