Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae tai amlfeddiannaeth yn darparu ffynhonnell bwysig o lety i nifer o bobl o wahanol gefndiroedd ledled Cymru. Mae teuluoedd, gweithwyr proffesiynol ifanc a myfyrwyr yn byw yn y math hwn o lety ac mae'n cynnal rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed a difreintiedig, fel y rhai ar incwm isel. Hefyd, ers ychydig o flynyddoedd, defnyddir tai amlfeddiannaeth o ansawdd uchel er mwyn darparu llety fforddiadwy.
Bydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau y bydd tai amlfeddiannaeth yn cael eu prisio fel eiddo unigol ar gyfer bandio y dreth gyngor lle bo hynny'n briodol, gan greu cysondeb ar draws y sector a rhoi sicrwydd i gynghorau, landlordiaid ac aelwydydd. Bydd hyn yn lliniaru'r baich gweinyddol ar gynghorau ac yn sicrhau y bydd perchnogion yn parhau i fod yn atebol am y dreth gyngor yn y ffordd arferol, yn hytrach na bod cynghorau yn bilio tenantiaid unigol sy'n meddiannu'r eiddo am gyfnod byr yn unig efallai.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar Reoliadau drafft er mwyn:
- sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu bandio fel eiddo unigol gydag un band y dreth gyngor; a
- sicrhau bod perchennog tŷ amlfeddiannaeth yn parhau i fod yn atebol am y dreth gyngor.
Hoffwn gael safbwyntiau ar y cynigion a'r Rheoliadau drafft gan unrhyw un sydd â barn am y ffordd y caiff tai amlfeddiannaeth eu trin at ddibenion y dreth gyngor, gan gynnwys gan drethdalwyr, cynghorau, landlordiaid, perchnogion tai amlfeddiannaeth, tenantiaid ac unrhyw un arall sy'n dymuno rhoi sylwadau. Cynhelir yr ymgynghoriad am gyfnod o 12 wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 26 Tachwedd 2024.
Gellir dod o hyd i'r ymgynghoriad yn:
https://www.llyw.cymru/prisio-tai-amlfeddiannaeth-ddiben-treth-y-cyngor
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.