Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru, yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar wasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau, sydd i fod i ddechrau rhedeg o 2018, yn ogystal â’r cam nesaf yn mhrosiect Metro De-ddwyrain Cymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar gasgliadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a Mawrth 2016. Roedd yr ymgynghoriad blaenorol wedi rhoi cyfeiriad clir ar nifer o flaenoriaethau gan deithwyr, gan gynnwys lleihau amseroedd teithio, cynyddu capasiti a gwella prydlondeb. Yn awr, rydym eisiau deall barn y defnyddwyr ar sut y gellir troi’r blaenoriaethau hyn yn gynigion gan ystyried a oes lle i gyfnewid rhwng buddion a chostau.
Hefyd, mae’r ymgynghoriad yn fodd i gael y diweddaraf am y cynnydd o ran caffael ac yn rhoi golwg ar y broses gaffael a’r camau nesaf. Mae’n ymwneud â gwasanaethau yng Nghymru a gwasanaethau trawsffiniol. Mae’n gwahodd sylwadau ar pa mor gyfforddus yw teithwyr, gwelliannau i orsafoedd, gwell cysylltiadau, gwybodaeth, prisiau a thocynnau. Mae hefyd yn ymwneud â phrif reilffyrdd sy’n gwasanaethu’r cymoedd sy’n rhan o’r Metro, gan gynnwys integreiddio gwasanaethau a rheoli unrhyw darfu a gynllunir wrth wneud gwelliannau mawr i’r seilwaith.
Yn ychwanegol at yr ymgynghoriad ysgrifenedig sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau er mwyn rhor gwybod i bawb am yr ymgynghoriad. Dyma rai o’r digwyddiadau:
- defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol;
- creu pecynnau adnoddau gan gynnwys fersiwn i bobl ifanc, fersiwn hawdd i’w ddeall a ffeithluniau;
- pum digwyddiad hanner diwrnod ledled Cymru (a gynhelir yn Llandudno, yr Amwythig, Nantgarw, Caerfyrddin ac Aberystwyth);
- sefydlu nifer o grwpiau ffocws i dargedu pobl sy’n teimlo’u bod yn cael eu tangynrychioli neu’n anodd i’w cyrraedd;
- hysbysebu ar-lein i dargedu teithwyr a’r rhai nad ydynt yn deithwyr;
- prosiect ymchwil gyda Transport Focus i dargedu teithwyr a’r rhai nad ydynt yn deithwyr; ac
- ymgysylltu â’r gymuned fusnes a chyflogwyr.