Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Heddiw, rwy’n falch o gael lansio ymgynghoriad i geisio barn am Reoliadau Cronfa Ddata Addysg Deddf Plant 2004 (Cymru) 2020 drafft a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2020 drafft.
Mae’r strategaeth genedlaethol, sef “Ffyniant i Bawb”, yn cydnabod y dylai taith addysgol pant fod yn un o adegau mwyaf cyfoethog a gwerthfawr eu bywyd, ac y dylid rhoi’r wybodaeth â’r sgiliau angenrheidiol iddynt allu gwireddu eu potensial
Mae gan bob plentyn yr hawl sylfaenol i gael addysg. Mae Llywodraeth Cymru'n parchu penderfyniad rhai rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, ond rhaid cydbwyso hyn â'r hawl absoliwt i blant gael addysg addas. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fod yn benderfynol o sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg addas yn yr ysgol neu yn y cartref.
Mae'r cynigion hyn yn defnyddio'r pwerau presennol a geir yn adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata sy’n cynnwys pob plentyn o oedran ysgol gorfodol, a’r rhai nad ydynt ar unrhyw gofrestr addysg. Bydd y Rheoliadau hefyd yn rhoi dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol i ddatgelu ychydig bach o wybodaeth anghlinigol i boblogi'r gronfa ddata. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ysgolion annibynnol rannu â’r awdurdod lleol ychydig bach o wybodaeth am fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliadau. Bydd y pwerau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata o blant nad ydynt ar unrhyw gofrestr addysg er mwyn eu helpu i nodi’r plant nad ydynt yn cael addysg addas.
Byddwch yn ymwybodol, yn sgil y datganiad a gyhoeddais ar 11 Rhagfyr, bod nifer sylweddol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft yn amlygu pryderon gan addysgwyr yn y cartref ynghylch diogelu data a hawliau dynol.
Rydym yn cymryd amser i ystyried y pryderon hyn ac, yn y cyfamser, rydym wedi bod yn fwy eglur mewn perthynas â phryderon ynghylch y goblygiadau o ran diogelu data a hawliau dynol sydd ynghlwm â Rheoliadau'r gronfa ddata.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb mewn addysg yn y cartref i ddweud eu dweud er mwyn ein helpu i ddatblygu a mireinio ein cynigion ymhellach a pharhau i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon wrth symud ymlaen. Byddwn yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai sy'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu hawl i gael gwrandawiad o dan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei chadarnhau.
Rwy'n edrych ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y Rheoliadau drafft, ac rwyf am sicrhau'r rhai sy’n ymateb y bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd yr amser i roi ystyriaeth briodol i bob ymateb a dderbynnir yn ystod y ddau ymgynghoriad.