Neidio i'r prif gynnwy

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

 Bydd Aelodau'n ymwybodol imi lansio ymgynghoriad fis Hydref diwethaf ar gynigion i newid y ddeddfwriaeth ar fridio cŵn yng Nghymru. Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol ymhlith ystod eang o grwpiau a derbyniwyd dros 500 o ymatebion. Mae llawer o bobl wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac wedi gwneud sylwadau adeiladol, ac yr wyf yn ddiolchgar am eu cyfraniad.

Roedd y Rheoliadau drafft a'r ddogfen ymgynghori eu hunain yn gynnyrch llawer iawn o waith ar draws nifer o grwpiau. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen ar fridio cŵn gyda chynrychiolwyr o'r proffesiwn milfeddygol, awdurdodau lleol, sefydliadau lles a'r Kennel Club. Eu hargymhellion oedd sail y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft. Hefyd, ariannodd y cynllun gwella lles anifeiliaid anwes ddau brosiect a nododd fylchau yn y broses ddeddfwriaethol a'r gyfundrefn drwyddedu. 

Dyma'r cynigion canolog yn y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft:

  • Newidiadau i'r meini prawf cymhwyso ar gyfer trwyddedu, gan gynnwys nifer y geist sy'n bridio, nifer y torllwythi mewn cyfnod o 12 mis a hysbysebu 10 o gŵn bach neu fwy i'w gwerthu mewn blwyddyn
  • Cymhareb staff: cŵn gydag uchafswm cymhareb o 20 ci ar gyfer pob gofalwr llawn amser, a
  • Gorfodaeth i osod microsglodion ar bob ci bach cyn ei werthu neu i'w hailgartrefu.

Mae fy swyddogion bellach wedi cwblhau dadansoddiad cychwynnol o'r ymatebion a bydd y rhain yn cael eu rhoi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Er i ni dderbyn amrywiaeth eang o ymatebion, cafwyd rhai negeseuon cyffredinol clir:

  • Ceir cytundeb cyffredinol bod lles bridio cŵn yn cael blaenoriaeth uchel ac y dylid dod â bridio anghyfrifol mewn "ffermydd cŵn bach" i ben
  • Mae lles pob ci bridio (cŵn a geist gre) a'u hepil yn hollbwysig
  • Mae pryderon a yw'r ddeddfwriaeth fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd wedi'i thargedu'n ddigonol i reoli busnesau bridio cŵn, bod rhai o'r meini prawf ar gyfer cael trwydded yn rhy gul
  • Mae cefnogaeth gref i ficrosglodynnu i ddod yn orfodol, ond mae yna faterion y mae angen eu hegluro, megis effaith gosod microsglodion yng Nghymru ar fasnach gyfreithlon i Loegr

O ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda'r sectorau bridio cŵn a lles er mwyn cyflwyno deddfwriaeth ddiwygiedig. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella safonau lles anifeiliaid ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn cael y ddeddfwriaeth yn iawn. O ystyried yr amserlen sydd ei hangen i wneud hyn, ni fydd yn bosibl cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddrafft derfynol yn nhymor y Llywodraeth hon. Yr wyf wedi cyfarwyddo swyddogion i barhau i weithio ar sail gydweithredol i ddatblygu'r Rheoliadau drafft terfynol er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu buan gan Lywodraeth newydd os dymunant.