Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rydym yn lansio ymgynghoriad ar Gynllun Drafft 10 Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru.   Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun strategol cyntaf Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Roedd hyn yn ein hymrwymo i ymgynghori ar yr ymagwedd gywir ar gyfer gweithlu gofal plant yng Nghymru o ran cymwysterau cymhwysedd gofynnol, arweinyddiaeth graddedigion, datblygiad proffesiynol parhaus a llwybrau gyrfa. Mae lansiad yr ymgynghoriad heddiw yn nodi ein cynnydd wrth ymateb i'r ymrwymiad hwn.   Mae Cynllun Drafft 10 Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru wedi cael ei ddatblygu drwy broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Mae'r cynllun drafft yn amlinellu ein targedau hirdymor ar gyfer y gweithlu pwysig hwn, mae'n nodi sut rydym yn bwriadu cefnogi’r datblygiad hwn, ac yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag anghenion datblygu gweithlu pob math o ddarpariaeth yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae cofrestredig, yn y sector a gynhelir a’r sector nas cynhelir. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i gasglu barn ar y cynigion arfaethedig.    Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol, hirdymor ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru. Ymhen 10 mlynedd rydym am gael gweithlu hyfedr ac uchel ei barch sy'n deall sut mae plant yn dysgu a datblygu, ac sy'n gallu strwythuro gweithgareddau ac amser i gefnogi plant i ddatblygu i’w potensial llawn. Rydym am annog y gweithlu hwn i fod yn ddysgwyr rhagweithiol, ac yn benodol, i ehangu a datblygu eu sgiliau Cymraeg, gan symud tuag at weithlu dwyieithog.   Os byddwn yn llwyddo yn yr amcanion hyn, rydym o'r farn y byddwn yn gwella canlyniadau i blant ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Byddwn hefyd yn ceisio hybu statws y gyrfaoedd sydd yn sector y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i adlewyrchu'r rôl hanfodol sydd gan yr ymarferwyr hyn wrth gefnogi datblygiad plant. Rydym yn cydnabod y bydd y newidiadau hyn yn cymryd amser ac am y rheswm hwn rydym yn nodi ein disgwyliadau yng nghyd-destun cynllun strategol hirdymor.   Mae'r Cynllun Drafft 10 Mlynedd hefyd yn nodi ein hymateb arfaethedig i'r argymhellion ynglŷn â hyfforddiant a'r gweithlu o ddau adroddiad annibynnol diweddar: Archwiliad Annibynnol o’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru  (2014) wedi'i arwain gan yr Athro Iram Siraj (Yr Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain) ac Adolygiad Annibynnol o Gofrestru, Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Plant ac Addysg Gynnar (2014) wedi’i arwain gan yr Athro Karen Graham (Prifysgol Glyndŵr). Er bod nifer o'r argymhellion o ran y gweithlu a hyfforddiant a nodir yn yr adroddiadau hyn yn heriol ar gyfer y sector, maen nhw'n gydnaws â chyfeiriad a dyheadau ein polisi cyfredol i wella ansawdd gofal plant ac addysg gynnar. Rydym yn falch o ymateb i'r argymhellion hyn fel rhan o ymgynghoriad y gweithlu ehangach.    Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanlyniadau gwerthusiadau’r Cyfnod Sylfaen a Dechrau’n Deg, yr Adolygiad o’r Cwricwlwm ac Asesu ac adolygiadau parhaus eraill. Gyda’i gilydd, bydd y canfyddiadau hyn yn darparu sylfaen tystiolaeth eang i lywio cynllun gweithlu terfynol, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2015, gan gryfhau ein hymgyrch i wella ansawdd a chodi safonau gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru ymhellach.