Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar Fwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy rhwng 21 Mehefin a 30 Medi. Ei ddiben oedd ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol i reoli ein hadnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy ac i helpu i gyflawni Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).

Daeth dros 16,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law sy'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn i bobl. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymroi o'u hamser i gyfrannu at y broses ymgynghori. Mae'r amrywiaeth eang o ymatebion a roddwyd gan sefydliadau ac unigolion wedi rhoi cryn dipyn o wybodaeth inni ar y mater.

Mae'r ymatebion hyn yn rhan allweddol o lywio ein camau nesaf, ac mae fy swyddogion yn gweithio ar y broses o'u dadansoddi a'u hystyried i gyd. O ran rhai agweddau ar yr ymgynghoriad, mae hyn yn cynnwys safbwyntiau gwahanol, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'r cynigion sy'n ymwneud â mynediad i’r awyr agored a rheoleiddio craffach. Mae'n bwysig, felly, fod y broses hon yn cael ei chynnal yn drylwyr.

O gofio ein bod yn wynebu heriau sylweddol sy'n ymwneud ag ymadawiad y DU â'r UE, rhan allweddol o'r gwaith dadansoddi hwn yw nodi cynigion a all ein helpu i baratoi ar gyfer hynny neu ein helpu i leddfu'r risgiau cysylltiedig. Felly, mae'r dadansoddiad hefyd yn bwysig o ran llywio ein ffordd ehangach o weithio ar ôl ymadael â'r UE.  

Gan fod cynifer o ymatebion wedi dod i law, ein nod yw cyhoeddi'r adroddiad cryno yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i drafod yn eang, yn enwedig drwy’r Grŵp Bord Gron Gweinidogol ar Brexit a gweithgorau sectorau unigol.


https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bwrw-ymlaen-rheoli-adnoddau-naturiol-cymru-yn-gynaliadwy