Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio’n ddiweddar gan y Senedd, yn rhoi pwerau trethu a phwerau ariannol newydd i Gymru. Fel rhan o’r Deddf hon, caiff Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) ei datganoli i Gymru o Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu disodli’r dreth hon â Threth Trafodiadau Tir (LTT).

Rwyf yn falch o’ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar 10 Chwefror 2015.  Dyma’r ail ymgynghoriad ar ddatganoli pwerau trethu newydd i Gymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, a ddaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2014.

Bydd yr ymgynghoriad yn eang ac yn agored, gan gynnig cyfle gwirioneddol i bobl Cymru allu dylanwadu ar agweddau pwysig ar LTT yn y cyfnod cynnar hwn ar ei ddatblygiad. Dylai’r dreth fod yn gyson hefyd â’r egwyddorion ar drethi Cymru yr wyf wedi’u nodi gynt, a fydd yn ceisio creu treth:

  • a fydd yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu; 
  • a fydd yn syml, gyda rheolau clir, gan anelu at gadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf;
  • a fydd yn cefnogi twf a swyddi, ac a fydd, yn ei dro, yn helpu i drechu tlodi; a
  • a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.

Gallai LTT gael effeithiau pwysig ar y farchnad ar gyfer adeiladau a thir a hynny at ddibenion preswyl ac amhreswyl. Mae hyn felly yn ddatblygiad pwysig ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at gael eich sylwadau am y materion a godir yn yr ymgynghoriad arfaethedig.