Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais gynllun Llywodraeth Cymru i bennu cerrig milltir fel y cam nesaf yn y broses o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith.
Bydd pennu cerrig milltir yn helpu i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, ac maent yn bwysig i'r Llywodraeth ac i bob corff cyhoeddus a bwrdd gwasanaeth cyhoeddus wrth asesu canlyniadau.
Er mwyn pennu'r cerrig milltir, byddwn yn nodi set fach o ddangosyddion cenedlaethol, a chaiff y cerrig milltir eu gosod yn eu herbyn. Bydd canolbwyntio ar set fach yn galluogi'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i ddatblygu'r cerrig milltir a'u hymgorffori - gan sicrhau eu bod yn ystyrlon ond nid yn ychwanegu haen arall o fonitro.
Ein bwriad yw y dylai'r cerrig milltir adlewyrchu'r meysydd lle gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid ddylanwadu ar ganlyniadau; lle bydd cyrraedd y cerrig milltir yn arwain at gynnydd mewn nifer o feysydd, ac sy'n dibynnu ar gamau nifer o bartneriaid. Oherwydd bod gan y Ddeddf ffocws hirdymor, ein bwriad yw cynnig cerrig milltir a fydd yn cael effaith ar bob cenhedlaeth, drwy atal canlyniadau gwael a fydd yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r gwaith ymgysylltu eang rydym wedi'i wneud hyd yma yn dangos pa mor bwysig yw cerrig milltir i ystod o randdeiliaid. Bydd yr ymgynghoriad am y meini prawf ar gyfer dewis cerrig milltir, ac ar y set fach o ddangosyddion cenedlaethol yn agor ar 28 Ionawr 2019. Bydd yn para am 12 wythnos ac yn cau ar 19 Ebrill 2019. Yna, byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl ymatebion ac yn cyhoeddi'r ymateb i'r ymgynghoriad.