Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn Symud Cymru Ymlaen, cyflwynasom ein bwriad i feithrin yr amodau sydd eu hangen i sicrhau bod ein busnesau a'n cymunedau yn ffynnu. Mae refeniw a godir o drethi lleol yn rhan bwysig o'r cyllid sydd ei angen i gynnal gwasanaethau cyhoeddus ac mae'n hanfodol bod y refeniw hwn yn dal i gael ei gasglu mor effeithiol a theg â phosibl.  

Mae ardrethi annomestig yng Nghymru yn codi dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol a'r heddlu. Mae'r holl refeniw a gesglir drwy ardrethi annomestig yn cael ei ail-ddosbarthu i helpu i dalu am y gwasanaethau – addysg, gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff, trafnidiaeth, tai, amddiffyn y cyhoedd, hamdden ac amwynderau amgylcheddol a mwy – yr ydym ni oll yn ddibynnol arnynt. Heb y ffrwd refeniw hon, byddai'r gwasanaethau hyn ar eu colled ac mae'n hanfodol bod pob un yn cyfrannu'n deg.  

Fel yn achos unrhyw system drethi, mae rhai yn benderfynol o osgoi'r ardrethi annomestig y maent yn atebol i'w talu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dorri ar y cyfle i osgoi talu trethi a helpu sefydliadau i ymchwilio'n fwy effeithiol i achosion.  Efallai mai lleiafswm bach o drethdalwyr annomestig sy'n osgoi talu trethi, ond pan nad ydynt yn cyfrannu'n deg mae gwasanaethau lleol, y gymuned ehangach a threthdalwyr eraill ar eu colled.  

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ymgynghoriad ar gyfres o syniadau a awgrymwyd imi a allai helpu i fynd i'r afael â'r rheini sy'n osgoi talu ardrethi annomestig.  

Rwyf wedi ystyried ystod eang o dystiolaeth gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd yn ddiweddar wrth adolygu polisïau mewn ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig (DU), yn ogystal â thystiolaeth gan awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau eraill. Mae'r ymgynghoriad yn trafod sut y gallwn ni wrthbwyso anghenion awdurdodau lleol a busnesau ond hefyd weithio'n agos gydag asiantaethau eraill a Llywodraeth y DU i wneud gwelliannau.  

Wrth ystyried unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, byddwn yn gwneud hynny yn unol ag Egwyddorion Trethi Llywodraeth Cymru: i godi refeniw mor deg ag sy'n bosibl; i fod yn glir, sefydlog a syml; i'w datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud; a chyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Mae heddiw'n nodi dechrau cyfnod ymgynghori 12 wythnos o hyd â threthdalwyr annomestig, cynrychiolwyr diwydiant, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Rydym yn awyddus iawn i glywed eu barn ac i weithio'n adeiladol gyda nhw. Mae hwn yn gyfle i ystyried sut y gallwn ni wneud ein system ardrethi annomestig yn fwy teg ac effeithiol.  Edrychaf ymlaen at weld yr holl gyfraniadau ar y mater pwysig hwn. Fodd bynnag, i fod yn glir, er bod yr holl syniadau yn y ddogfen ymgynghori yn faterion i’w trafod, mae'r brif egwyddor sy'n sail iddynt yn sefydlog. Nid yw'n iawn o gwbl fod ymdrechion y mwyafrif llethol, i lynu wrth y rheolau a thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt, yn cael eu tanseilio gan fwyafrif sy'n benderfynol o gamddefnyddio'r system. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio'n bendant ar wneud y system yn fwy effeithiol, yn decach ac yn llai agored i gael ei chamddefnyddio.  

https://beta.llyw.cymru/mynd-ir-afael-ag-achosion-o-osgoi-ardrethi-annomestig-yng-nghymru


Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr egwyl er mwyn rhoi’r diweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd ar ôl yr egwyl, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.