Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn a’n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a’r mathau eraill o gymorth sydd ar gael i bobl i’w helpu i dalu eu treth gyngor. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn derbyn yr help mae ganddynt hawl i'w gael.

Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ynghylch dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Dyma'r cam nesaf i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru.

Mae talu treth gyngor yn hollbwysig i gynnal y gwasanaethau yr ydym ni gyd yn dibynnu arnynt bob dydd. Ond mae hefyd yn iawn fod y rheini sy'n llai galluog i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas. Rwy'n credu y dylem ailystyried priodoldeb y camau gorfodi sy’n golygu bod pobl yn cael eu dedfrydu i garchar am beidio â thalu treth gyngor.

Dydw i ddim yn credu bod cosb o garchar yn ymateb cymesur i ddyled sifil. Mae’n bryd bellach inni herio’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â charcharu rhywun am beidio â thalu treth gyngor, methiant carcharu i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y ddyled, a'r effaith ar ddyfodol a lles y rhai y rhai sy'n cael eu hanfon i'r carchar a'r rhai agosaf atynt.

Mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth ac ymchwil ledled Cymru a'r DU a gasglwyd gan awdurdodau lleol, gwasanaethau cynghori ar ddyledion a sefydliadau eraill, sy'n cwestiynu effaith ac effeithiolrwydd anfon rhywun i’r carchar am beidio â thalu treth gyngor.

Cynigir y bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn gynnar yn 2019 i ddileu’r gosb o garchar yng Nghymru, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad. O dan y cynnig hwn, ni fyddai modd carcharu unrhyw unigolyn am ddyled treth gyngor o'r adeg honno ymlaen.

Heddiw, nodir dechrau ymgynghoriad 12 wythnos gyda threthdalwyr, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chynrychiolwyr eraill o'r diwydiant. Mae'n gyfle pwysig i wneud ein system treth gyngor yn decach ac rwy’n awyddus i glywed barn a gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ein hymagwedd.

Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cynghori ar ddyledion i sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r arferion gorau i gefnogi unigolion sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/dileur-gosb-o-garchar-am-beidio-thalu-treth-gyngor