Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Ardaloedd Dynodedig a Rhaglen Weithredu i fynd i’r afael â Llygredd Nitradau yng Nghymru. Gofynnwyd i bobl fynegi barn ar yr opsiynau ar gyfer dynodi Parthau Perygl Nitradau yn y dyfodol ac am farn pobl am fesurau'r Rhaglen Weithredu a roddwyd ar waith o fewn y Parthau hynny. Cafwyd 256 o ymatebion oddi wrth unigolion a sefydliadau, gan adlewyrchu pa mor bwysig yw ansawdd dŵr i Gymru. Roedd bron 60% o ymatebion o blaid dynodi tiriogaethau cyfan. Caiff y Crynodeb o ymatebion ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.
Mae gwarchod ansawdd dŵr yn un o'r prif flaenoriaethau sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth Ddŵr i Gymru. Er bod nitrogen yn faethyn hanfodol sy'n helpu planhigion a chnydau i dyfu, mae gormod ohono yn gallu bod yn niweidiol. Y defnydd amaethyddol o nitradau yw un o'r prif ffactorau sy'n gyfrifol am lygru ein dŵr. Mae rhwymedigaethau rhyngwladol, megis Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, yn ei gwneud yn ofynnol inni gymryd camau i wella ansawdd ein dŵr erbyn 2030 drwy leihau llygredd.
Mae'r ffordd wael y mae maethynnau’n cael eu rheoli yn dal i fod yn broblem fawr ledled y wlad. Mae modd atal y math yma o lygredd ac ni ddylem weld rhannau helaeth o afonydd heb bysgod mwy neu lai yn yr 21ain ganrif. Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr wedi cydnabod yr effaith sylweddol y mae llygredd nitradau yn ei chael, ac roeddent yn cytuno bod angen cymryd camau pellach.
Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gyda barn rhanddeiliaid o’m Grŵp Bord Gron Gweinidogol ar Brexit a'i Is-grŵp Rheoli Tir, ac Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol. Rwyf am sicrhau y gall pobl Cymru barhau i elwa ar ein hadnoddau naturiol. Er mwyn gallu gwneud hyn, mae'n rhaid gwella'r ffordd y caiff ein dŵr ei warchod rhag llygredd amaethyddol. Rwyf o blaid cyflwyno dull cenedlaethol i ymdrin â llygredd nitradau sy'n deillio o waith amaethyddol.
Dros y misoedd nesaf, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid i daro'r cydbwysedd cywir rhwng mesurau rheoleiddiol, mentrau gwirfoddol a buddsoddiad. Rwy'n bwriadu edrych ar opsiynau er mwyn medru rhoi hyblygrwydd i reolwyr tir, lle y byddai’r opsiynau hynny yn arwain at yr un canlyniad neu ganlyniadau gwell na dull rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys edrych ymhellach ar gynnig gan y diwydiant amaethyddol sy'n seiliedig ar brosiect First Milk i leddfu effaith maethynnau.
Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol a pharodrwydd y diwydiant i gydweithio â ni i ymdrin â'r broblem hon. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r grŵp hwn a’r Is-grŵp Rheoli Tir y Ford Gron Gweinidogol i sicrhau bod y drefn reoleiddiol yn ddigon cadarn i gyflawni'r canlyniadau y mae eu hangen ar Gymru, gan gynnig hyblygrwydd ar yr un pryd.
Mae gennym rai o'r ardaloedd gwledig a'r afonydd mwyaf ysblennydd yn Ewrop ac mae dyletswydd arnom i'w gwarchod a'u gwella. Bydd y ffordd newydd hon o weithio yn ein helpu i wneud hynny.