Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw, rwy’n lansio dau ymgynghoriad ynghylch amgylchedd bwyd iach a rhoi diwedd ar werthu diodydd egni i blant a phobl ifanc o dan 16. Mae’r rhain yn gam pwysig tuag at gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol a nodir yn ein strategaeth ddeng mlynedd Pwysau Iach: Cymru Iach.
Gordewdra yw un o’r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu fel poblogaeth. Mae’n un o’r ffactorau risg allweddol mewn llawer o glefydau anhrosglwyddadwy ac yn un o brif achosion nifer y blynyddoedd o fyw ag anabledd.
Mae gorbwysedd a gordewdra yn effeithio ar fwy na 60% o oedolion a mwy nag un o bob tri phlentyn oed derbyn. Mae canlyniadau astudiaethau cynnar a gynhaliwyd mewn nifer o wledydd yn awgrymu bod nifer yr achosion o orbwysedd a gordewdra wedi cynyddu ymhlith plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig .
Mae’n rhaid inni fabwysiadu dull aml-elfen er mwyn ysgogi newid cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys newid ein hamgylchedd bwyd ehangach i un sy’n annog ac yn ei gwneud yn haws inni wneud dewisiadau cadarnhaol ar gyfer ein hiechyd. Mae adroddiad rhanbarthol ar ordewdra gan Sefydliad Iechyd y Byd a lansiwyd y mis hwn, yn ei gwneud hi’n glir bod angen i ymdrechion i atal gordewdra ystyried ffactorau ehangach sy’n achosi’r clefyd, ac y dylai opsiynau polisi symud oddi wrth ddulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion a mynd i’r afael â’r ffactorau strwythurol sy’n gysylltiedig â gordewdra.
Rydym eisiau creu amgylchedd ledled Cymru lle mae’r dewis iach yn ddewis hawdd.
Mae’r ymgynghoriad amgylchedd bwyd iach yn canolbwyntio ar dair thema - basgedi siopa iachach; bwyta'n iachach y tu allan i'r cartref ac amgylcheddau bwyd lleol iachach. Mae’r cynigion y byddwn yn gofyn i bobl eu hystyried yn cynnwys cyfyngu ar hyrwyddo rhai bwydydd a diodydd; gorfodi bwytai a mannau gwerthu bwyd i arddangos calorïau a defnyddio pwerau cynllunio a thrwyddedu presennol i ystyried dwysedd siopau bwyd tecawê poeth mewn ardal benodol. Rydym am ddefnyddio ein pwerau a’n dulliau polisi presennol i ddatblygu newid ledled Cymru.
Nod yr ail ymgynghoriad yw defnyddio pwerau presennol i roi terfyn ar werthu diodydd egni i blant a phobl ifanc o dan 16.
Bydd fy swyddogion yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid i drafod y cynigion a chasglu tystiolaeth ac adborth manwl. Bydd hyn yn cynnwys casglu barn y cyhoedd a grwpiau ffocws penodol i sicrhau ein bod yn gwrando a chasglu safbwyntiau gwahanol. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu penodol â diwydiant a rhanddeiliaid a byddwn yn rhoi dulliau ar waith i sicrhau ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae dolen i’r ymgynghoriad ynghlwm: