Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y Rhaglen Prentisiaeth Iau yn cael ei hymestyn. Rydym yn cefnogi'r rhaglen hon drwy roi £800,000 yn ychwanegol iddi, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar draws pob Awdurdod Lleol. Bydd y cyllid yn galluogi colegau ac ysgolion ledled Cymru i gydweithio’n well.

Mae'r Rhaglen Prentisiaeth Iau wedi'i hanelu at blant rhwng 14 ac 16 oed, ac mae’n eu galluogi i ddilyn llwybr galwedigaethol lefel 1 neu 2 mewn coleg lleol, gan feithrin sgiliau ymarferol wrth ennill cymwysterau.

Ar hyn o bryd, dim ond yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro mae’r rhaglen yn cael ei chynnal. Fodd bynnag, diolch i’r buddsoddiad newydd, bydd modd i bob rhan o Gymru dreialu’r dull arloesol hwn o ennyn diddordeb dysgwyr mewn llwybrau galwedigaethol yn gynt, gan roi mwy o gyfle iddynt feithrin sgiliau ymarferol go iawn sy’n bwysig i gyflogwyr.

Ar hyn o bryd, mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig llwybrau ym maes Moduro, Adeiladu, Arlwyo a Lletygarwch, Trin Gwallt a’r Cyfryngau Creadigol/Digidol i enwi dim ond rhai. Ochr yn ochr â'r cymwysterau galwedigaethol, disgwylir i'r dysgwr gwblhau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg hefyd. Nawr, gall y llwybrau hyn, a rhai eraill, fod yn opsiynau i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae 16 oed yn bwynt pontio hollbwysig i bobl ifanc. Bydd gennym nawr floc adeiladu arall yn ei le i’n helpu i gyrraedd ein nod o greu llwybrau galwedigaethol gwirioneddol integredig sy'n dechrau pan mae’r unigolyn yn 14 oed ac yn gallu parhau gydol ei yrfa.