Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyfnod ymgynghori ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft (FfDC) yn cael ei ymestyn gan bythefnos a bydd yn cau ddydd Gwener 15 Tachwedd 2019.

Yn dilyn cychwyn yr ymgynghoriad ar 7 Awst 2019, mae nifer fach o fan-newidiadau a gwallau wedi eu hadnabod.  Roedd enwau atodiadau yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) o bosibl yn ddryslyd ac ni chynhwyswyd mapio ategol y cyfeirir ato yn Atodiad B. Rhoddwyd HRA diwygiedig sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn ar dudalen we ymgynghoriad y FfDC ar 21 Awst.

Fe nodwyd hefyd fod potensial am ddryswch yn y tablau yn Atodiad B y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig (ISA). Dangoswyd rhifo a geiriad polisi cynharach ochr yn ochr â rhifo a geiriad polisi terfynol yr FfDC Drafft. Rhoddwyd ISA diwygiedig sy'n mynd i'r afael â hyn ac sy’n gwella croesgyfeirio yn y ddogfen ar dudalen we ymgynghoriad y FfDC ar 28 Awst.

Er mwyn bod yn gwbl dryloyw, rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o newidiadau i'r ddwy ddogfen ar dudalen we ymgynghoriad y FfDC ac wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori i ganiatáu amser ychwanegol i ystyried y rhain. Mae'r newidiadau yn rhai bach eu natur ac nid ydynt yn uniongyrchol yn berthnasol i'r ymgynghoriad ar ddrafft y FfDC. Maent yn ymwneud â'r HRA a'r ISA yn hytrach na'r FfDC ei hun ac nid ydynt wedi newid yr asesiadau na'r casgliadau yn gwnaed yn ei sgil yn sylweddol.

Os yw pobl eisoes wedi cyflwyno ymateb ymgynghori, ac yn teimlo bod y newidiadau hyn yn effeithio ar eu ymateb, mae croeso iddynt roi sylwadau pellach.  Mae'r holl ymatebion a dderbyniwyd eisoes yn ddilys ac nid oes angen eu hailgyflwyno oni bai bod pobl am newid eu ymateb.

https://llyw.cymru/fframwaith-datblygu-cenedlaethol-drafft?_ga=2.196376431.29312361.1571217962-1911299510.1570185243